Hill Ram Scheme

 

Mae'r dyddiad cau i gofrestru diddordeb ar gyfer cynllun arloesol i wella geneteg defaid  yn prysur agosáu.  

Mae gan ffermwyr mynydd Cymru tan 31 Mawrth i fynegi diddordeb mewn ymuno â Chynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru (HCC)

Mae hyn yn golygu diwedd yr ail rownd o recriwtio ffermwyr i  ymuno â'r Cynllun; byddan nhw’n ymuno â'r 22 o ffermwyr a'r saith Ddiadell Arweiniol sydd eisoes yn rhan ohono.

 

DNA Sampling

Mae’r Cynllun ar gael i bob diadell fynydd yng Nghymru. Bydd ffermwyr sy'n ymuno  yn derbyn cymorth i gofnodi perfformiad eu diadelloedd gan ddefnyddio'r dechnoleg DNA ddiweddaraf i olrhain tras - sy'n arbennig o addas ar gyfer ffermwyr mynydd. 

Bydd dadansoddi’r DNA a geneteg diadell yn caniatáu i ffermwyr dargedu gwahanol agweddau ar berfformiad diadelloedd megis tyfiant a phesgi, gwella'r cnewyllyn bridio neu gynhyrchu hyrddod â Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBV) y gellir eu gwerthu.

Bedwyr Jones


Mae diadell Bedwyr Jones yn un o saith Diadell Arweiniol y Cynllun Hyrddod Mynydd sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r Cynllun ers dechrau'r prosiect ac yn gweithredu fel esiampl i ffermwyr newydd sy'n ymuno. Mae Bedwyr yn ffermio ochr yn ochr â'i deulu ar fferm fynydd llai dwys ger Nant Gwynant yn Eryri.  

"Mae gallu defnyddio technoleg samplu DNA yn golygu nad oes angen cymorth  ychwanegol adeg ŵyna, ac rwy’n dal i allu cofnodi perfformiad fy niadell yn y system llai dwys hon."

"Mae mynyddoedd Eryri yn amgylchedd anodd y tu hwnt, ac mae’n gyffrous gweld y canlyniadau ar ôl dewis mamogiaid sy’n gwneud yn dda yn gyson yn y system hon."

Dywedodd Gwawr Parry o HCC, sy’n cydlynu’r Cynllun Hyrddod Mynydd, "Mae’r cofnodi perfformiad DNA y mae ffermwyr y Cynllun Hyrddod Mynydd yn ei wneud fel rhan o’r prosiect yn y rheng flaen o ran ffermio a thechnoleg blaengar. Mae bod yn rhan o’r Cynllun yn gyfle unigryw i ffermwyr mynydd fireinio perfformiad a chynnyrch eu diadelloedd heb fawr ddim newid i’w systemau."

"Byddwn yn annog ffermwyr mynydd i gofrestru eu diddordeb trwy wefan HCC cyn gynted â phosibl."

Mae gan ffermwyr tan 31 Mawrth 3 i fynegi diddordeb trwy'r ffurflen ar-lein ar wefan HCC

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn un elfen o Raglen Datblygu Cig Coch HCC, sef menter dros gyfnod o bum mlynedd i geisio gwneud diwydiant cig coch Cymru yn fwy effeithlon a phroffidiol.

Ariannwyd y Rhaglen Datblygu Cig Coch gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.