Red Meat Benchmarking Image

Mae gan busnesau cymwys tan 10 Rhagfur i gwblhau'r holiadur 

Mae dyddiad cau Meincnodi Cig Coch yn agosáu ac rydym yn eich annog i gwblhau'r holiadur ar-lein cyn gynted â phosib neu gallech golli allan ar £1000 a dadansoddiad wedi’i deilwra o ddata eich busnes.

Darperir Meincnodi Cig Coch gan Hybu Cig Cymru (HCC) gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio, ac mae gan fusnesau sy’n gymwys hyd at y 10fed o Ragfyr i gwblhau’r holiadur ar-lein. 

Ond, cyn gwneud dim mae angen i chi fodloni meini prawf, gan gynnwys sicrhau bod eich busnes wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru er mwyn cael mynediad i’r system a dechrau ar y gwaith o gofnodi eich data. 

Mae’n bwysig cofio, nid yw Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar agor ar benwythnosau felly mae angen i chi ddechrau’r broses ar unwaith i osgoi rhwystrau posib fel trafferthion mewngofnodi. Rydym yn eich annog i osgoi gadel y dasg yma tan funud olaf.

Os nad ydych wedi cofrestru neu angen cymorth mewngofnodi i’r holiadur cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 neu drwy e-bostio cyswlltffermio@menterabusnes.co.uk. Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â’r prosiect at HCC ar 01970 625050.
 

Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio: “Meincnodi Cig Coch yw eich cyfle chi i gael gwell dealltwriaeth o sut mae’ch fferm yn perfformio a helpu i greu sector cig coch cadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”  

Mae ar gael i 2,000 o fusnesau sy’n cadw defaid a gwartheg sugno, ond sicrhewch eich bod yn ymwybodol o nifer yr anifeiliaid sydd eu hangen arnoch i allu cymryd rhan. Cofiwch hefyd mai’r cyntaf i’r felin gaiff falu. Bydd rhaid i chi gwblhau holiadur ar-lein er mwyn cyflwyno manylion ariannol a ffisegol am eich fferm. 

Dywedodd John Richards, Rheolwr Datblygu’r Diwydiant gyda HCC: “Dyma gyfle cynhyrchwyr cig coch i wella eu dealltwriaeth o’u costau cynhyrchu a pherfformiad eu busnes fferm. Gyda Brexit ar y gorwel, mae’n hanfodol bod ein busnesau mewn sefyllfa dda yn ariannol. Bydd ffermwyr sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn elwa’n uniongyrchol; byddant yn derbyn £1,000, yn ogystal â sicrhau bod ganddynt wybodaeth a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â’u busnesau, gan arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Gall hyn fagu hyder busnesau i fod yn fwy cystadleuol at y dyfodol.”

Ceir rhagor o fanylion ynghyd â’r meini prawf ar wefan HCC: https://hccmpw.org.uk/cy/industry-projects/red-meat-benchmarking