Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cael bron i £1 miliwn gan Raglen Datblygu Wledig Llywodraeth Cymru i ehangu ei brosiect PestSmart llwyddiannus sy'n annog pobl i ddefnyddio, storio a gwaredu plaladdwyr yn ddiogel.
Menter Dŵr Cymru yw PestSmart sy'n annog pobl i ystyried dulliau mwy 'doeth' a chynaliadwy o reoli chwyn, plâu ac afiechydon heb effeithio ar bobl, dŵr neu fywyd gwyllt.
Hyd yn hyn, mae gwaith arobryn y cwmni nid-er-elw ar blaladdwyr wedi canolbwyntio ar ardaloedd treial targed, ond bydd y cyllid ychwanegol gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EARFD) a Llywodraeth Cymru’n golygu y gellir rhoi’r prosiect ar waith ledled Cymru, ac y gellir ei ehangu i gynnwys defnyddwyr plaladdwyr domestig yn ogystal â defnyddwyr proffesiynol.
Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Dŵr Cymru,
"Roeddem ni wrth ein boddau i glywed am lwyddiant ein cais i ehangu'r fenter PestSmart. Ers i ni ddechrau'r gwaith yma yn 2014, rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â rheolwyr tiroedd a chymunedau yn ein dalgylchoedd dŵr yfed i gyflawni treialon a chreu dulliau newydd o weithio i annog pobl i ddefnyddio, storio a gwaredu plaladdwyr yn ddiogel. Mae'r gwaith yma wedi rhoi tystiolaeth a hyder i ni y bydd ein dull yn gweithio ar raddfa Cymru-eang ac y bydd yn darparu manteision niferus wrth greu Cymru iach a llewyrchus fel y mae ein gweledigaeth tymor hir, Dŵr Cymru 2050, yn ei amlinellu.
"Trwy ddyfarnu gwerth bron i £1 miliwn o gyllid i gyflawni ein menter PestSmart ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos cryn hyder yn ein gallu i ddarparu prosiectau arloesol o safon uchel.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael dechrau rhoi ein cynlluniau PestSmart ar waith er mwyn troi arferion gorau gyda phlaladdwyr yn arferion cyffredin, a byddwn ni'n rhannu deilliannau ein gwaith â Llywodraeth Cymru a'n partneriaid. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y dystiolaeth a ddaw yn sgil y prosiect estynedig yn bwydo dulliau o weithio i reoli tiroedd yng Nghymru at y dyfodol, ac y bydd yn ein helpu ni i sefydlu ffyrdd diogel o feddwl am ddefnyddio plaladdwyr a fydd yn meithrin gwytnwch ac yn diogelu ein hamgylchedd am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:
“Dŵr yw un o’n hasedau naturiol mwyaf gwerthfawr ac mae’n hollbwysig ein bod yn ceisio atal sylweddau niweidiol rhag mynd i mewn i’n cyrsiau dŵr. Mae angen i ni fynd ati mewn modd blaengar i amddiffyn ein hadnoddau naturiol. Rwyf, o’r herwydd, yn falch iawn y bydd PestSmart yn cael ei ddatblygu er mwyn helpu i leihau effeithiau niweidiol plaladdwyr.”
Gall unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth am brosiect PestSmart Dŵr Cymru ymweld â'u fan arddangos yn stondin OS180 yn y Ffair Aeaf ar Faes y Sioe yn Llanelwedd, ger Tŵr Sir Benfro, dydd Llun 26 Tachwedd a dydd Mawrth 27 Tachwedd.
Bydd staff Dŵr Cymru wrth law i ateb cwestiynau am y prosiect, a fydd yn cynnwys parhau â'u treial chwistrellu chwyn arobryn, a chynllun gwaredu plaladdwyr Cymru-eang.
Fel arall, gallech fynd i www.dwrcymru.com/pestsmart i gael rhagor o wybodaeth a chofrestru eich diddordeb mewn treialon a chynlluniau at y dyfodol.
Nodiadau:
Mae'r prosiect PestSmart wedi cael cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae gan brosiect PestSmart Dŵr Cymru bedwar maes ffocws. Sef:
- Hybu storio, defnyddio a gwaredu plaladdwyr mewn ffordd gyfrifol ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi
- Ymchwilio i ymddygiad a’r amgylchedd polisi
- Arferion newydd a thechnolegau 'doethach'
- Ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd
Prosiect TarddLe yw PestSmart; TarddLe yw dull Dŵr Cymru o fynd ati i ofalu am ein hafonydd, ein cronfeydd a'n cronfeydd dŵr a'n dŵr daear er mwyn amddiffyn dŵr yfed nawr ac am flynyddoedd i ddod.