Cows eating silage

Bydd ffermwyr llaeth Cymru’n wynebu dyfodol ansicr os byddent yn anwybyddu rhybuddion am ymwrthedd i gyffuriau (AMR) yn eu buchesi.
 
Am fod pryder yn cynyddu ymysg cwsmeriaid am wrthfiotigau mewn amaethyddiaeth ac, o ganlyniad i hynny, y pwysau gwleidyddol i gyfyngu ar eu defnyddio mewn anifeiliaid sy’n cael eu bwyta, mae cynhyrchwyr llaeth wedi derbyn cyngor i fabwysiadu protocolau ynghylch eu defnyddio nhw’n addas a rhoi strategaethau ataliol ar waith.
 
Rhoddwyd y cyngor yma yn ystod cyfres o gyfarfodydd Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd ledled Cymru mewn cydweithrediad â milfeddygfeydd lleol.
 
Mae ffermwyr llaeth ym Mhrydain wedi derbyn targedau i ostwng eu defnydd o wrthfiotigau o 20% erbyn 2020. Mae’n rhaid gostwng o 50% y defnydd a wneir o wrthfiotigau hanfodol bwysig (CIAs), sy’n cael eu defnyddio mewn meddyginiaeth ddynol hefyd.
 
Bydd atal clefydau a rheolaeth well ar anifeiliaid yn helpu ffermwyr i gwrdd â’r targedau hynny, yn ôl Harry Williams, o Teilo Vets, Llandeilo.


“Mae’n hanfodol cael bioddiogelwch da a rheolaeth dda ar heintiau,”

Dyma ddywedodd Mr Williams wrth ffermwyr yn un o’r cyfarfodydd yn Llandeilo.
 
Nid yw milfeddygon yn gallu rhoi presgripsiwn am CIA, megis cephalosporin a fflworocwinolonau, nes byddent wedi gwneud profion meithriniad a sensitifrwydd i ganfod yr organeb heintus.


“Er bod y rhain yn effeithiol, mae opsiynau eraill sy’n gweithio ac sy’n rhatach yn aml iawn”,

Meddai Mr Williams.
 
Rhybuddiodd na ddylai gwrthfiotigau gael eu hystyried byth fel opsiwn ‘trwsio sydyn’ am fod eu defnyddio’n anghywir ac yn ailadroddus yn gallu achosi i ymwrthedd ddatblygu.
 
Mae Mr Williams yn cynghori y dylid pwyso’r anifeiliaid i ganfod y dos sydd ei angen, a chwblhau’r cwrs ar y presgripsiwn bob tro.

 
“Efallai bod ffermwyr yn teimlo eu bod yn arbed arian os yw’r anifail yn gwella ac maent yn cadw’r gwrthfiotigau i’w defnyddio yn y dyfodol. Ond, gallai bacteria sy’n weddill ddatblygu ymwrthedd i’r gwrthfiotig hwnnw ac ni fydd yn gweithio os bydd yr anifail yn mynd yn sâl eto. Felly, yn y tymor hir, bydd yn costio llawer mwy i’r ffermwr na gwerth y cwrs cyntaf hwnnw o wrthfiotigau.”

Dywedodd bod gwahanol ddulliau o roddi gwahanol wrthfiotigau - er enghraifft, gyda dos o 70ml o Betamox LA i fuwch 700kg dylid ei chwistrellu mewn tri man, tra bo angen chwistrellu dos 15ml o Tylan mewn dau le.


“Os byddwch yn gorlwytho un lle, mae’n amharu ar amsugniad y moddion felly ni fyddwch yn rhoi dogn digonol a bydd hyn yn cynyddu’r siawns o ymwrthedd.
 
“Os ydych yn ansicr, darllenwch y taflenni gwybodaeth neu gofynnwch am gyngor milfeddyg.”

Dywedodd Mr Williams bod glendid a hylendid wrth roddi’r moddion yn atal baw rhag mynd ar y nodwydd – baw fyddai’n gallu achosi cornwydydd.  
 
Un mater cynhennus yw defnyddio gwrthfiotigau proffylactig – mewn ffermio llaeth mae hyn yn cynnwys triniaethau i wartheg sych (DCT).
 
Mae’r dull yma o drin pawb ar unwaith yn golygu bod gwrthfiotigau’n cael eu rhoi i lawer o anifeiliaid sydd heb unrhyw haint rhwng y tethi.

 
“Mae pob fferm yn wahanol. Os yw cyfrifiad y celloedd yn uchel, mae angen defnyddio gwrthfiotigau ond mewn buchesi lle mae cyfrifiad y celloedd yn isel, gallent wneud mwy o niwed na daioni.”
 
“Mae’r un peth yn wir am y driniaeth gyffredinol ar gyfer niwmonia mewn lloi, ychwanegodd.
 
“Mae angen i ni sicrhau nad ydym yn gwneud yr un camgymeriadau drosodd a throsodd.
 
“Os ydych yn rhoi dos ar gyfer niwmonia’n rheolaidd, ydych chi wedi ystyried gwella awyriad neu frechiadau?”

Bydd brechlynnau’n chwarae rôl allweddol mewn gostwng y defnydd o wrthfiotigau ond mae’r ffordd maen nhw’n cael eu trin a’u storio’n hanfodol i’w cadw’n effeithiol – dylai’r rhan fwyaf gael eu storio ar dymheredd o 2-8 gradd canradd.
 
Er bod y targedau i ostwng y defnydd o wrthfiotigau’n uchelgeisiol, mae Mr Williams yn cynghori y dylid mynd ati i wneud hynny gam wrth gam.
 
Mae llond llaw o afiechydon yn cyfrif am y mwyafrif mawr o’r gwrthfiotigau a roddir ar ffermydd llaeth, a chanfod y rhain ar lefel y fferm ei hun yw’r cam cyntaf i wneud newidiadau.


“Canolbwyntiwch ar y prif broblemau ar eich fferm chi ac ewch ati i drin y rhain yn gyntaf,”

Meddai Mr Williams.
 
Mae Cyswllt Ffermio’n gweithio gyda milfeddygon ledled Cymru i roi cyfle i ffermwyr wneud gwaith samplu a phrofion ar iechyd yr anifeiliaid gyda’u milfeddyg lleol. Mae busnesau fferm sy’n gofrestredig gyda Cyswllt Ffermio’n gymwys i dderbyn taleb werth £150 tuag at gost y samplu a’r profi.
 
Dywedodd Sarah Hughes, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio (De Cymru), y dylai gwrthfiotigau fod yn opsiwn olaf bob amser, ar ôl mynd ati i ymdrin â’r problemau rheoli.


“Defnyddiwch gynlluniau rheoli iechyd yr anifail i ymdrin â materion sy’n achosi clefydau a salwch. Mae hynny nid yn unig yn arfer da o safbwynt ariannol ond mae hefyd yn dangos defnydd da a chyfrifol o feddyginiaeth,”

Meddai.
 
Ariennir y prosiect gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.