Photo credit - Calon Wen, The pasture for pollinators project open day at Cop House Farm, near Chester.

Fel arfer ni fydd ffermwyr llaeth Cymru a chacwn yn cael eu cynnwys yn yr un frawddeg ond mae grŵp o ffermwyr llaeth organig, sy’n marchnata cynnyrch dan frand Calon Wen, yn gobeithio newid pethau. 

Gan eu bod yn pryderu am dynged y cacwn mae ffermwyr Calon Wen wedi penderfynu gweithredu. 

Mae chwech o ffermwyr Calon Wen o bob rhan o Gymru yn arwain prosiect ymchwil “Porfa i Beillwyr”, gan edrych ar sut y gallant atal, a hyd yn oed wyrdroi’r gostyngiad ym mhoblogaeth y cacwn trwy reoli eu porfeydd ychydig yn wahanol. 

Cychwynnodd y Prosiect, sy’n cael ei ariannu trwy raglen Partneriaeth ArloesI Ewrop (EIP Wales) a reolir gan Menter a Busnes, ar ddechrau 2018. 

Mae’r ffermwyr yn defnyddio cymysgedd arbennig o hadau yn eu porfa, a gyflenwir gan Cotswold Seeds, sy’n cynnwys cyfran uchel o blanhigion addas i beillwyr. Bydd hyn yn cael ei gyfuno â thechnegau rheoli glaswellt syml yn ystod y flwyddyn. Yn ystod y tymor silwair bydd y ffermwyr yn gadael stribed bedwar metr ar hyd ymylon y caeau heb ei thorri i sicrhau bod gwledd barhaus o flodau i beillwyr. Maent hefyd yn edrych sut y gallant reoli cynefinoedd eraill ar y fferm, fel gwrychoedd a phorfeydd heb eu gwella. 

“Mae gweld bywyd gwyllt ar fy fferm yn gwneud fy ngwaith yn llawer mwy pleserus, ac mae dysgu am y cacwn wedi bod yn ddiddorol iawn” dywedodd David Edge, un o ffermwyr Calon Wen a fu’n rhan o sefydlu’r Prosiect. 

Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn yn rhoi’r arbenigedd technegol ar gyfer y prosiect, ac maent yn monitro poblogaeth y peillwyr ar draws yr holl ffermydd. “Rwyf yn hynod o falch o’r ffordd mae’r prosiect yn mynd cyn belled” dywedodd Sinead Lynch, Uwch Swyddog Cadwraeth yn yr Ymddiriedolaeth. “Ar hyn o bryd rydym yn dal yn ein cyfnod treialu cychwynnol ac rydym eisoes yn sylwi ar rai canlyniadau diddorol iawn. Rydym wedi ymweld â’r ffermydd i gyd, wedi cwblhau arolygon a gweld bod gan y ffermwyr ddiddordeb mawr ac yn deall y prosiect yn llawn, sy’n wych.” 

Dywedodd Anna Hobbs, Swyddog Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn sy’n gyfrifol am arolygu’r ffermydd:

“mae’r canlyniadau yr ydym wedi eu casglu yn ystod cyfnod treialu 2018 wedi bod yn galonogol iawn. Maent yn dangos y gall gadael y darnau yma ar hyd ymylon caeau heb eu torri helpu i gynnig blodau parhaus y mae ar gacwn a pheillwyr eu hangen i gael bwyd ohonynt”.

Mae’r prosiect hefyd wedi dal dychymyg y cyhoedd. Dywedodd preswyliwr lleol, Mark, o Benarlâg, yng Ngogledd Cymru wrthym “Rwy’n meddwl bod ffermwyr Calon Wen yn gwneud gwaith gwych yma. Rwyf yn cerdded y caeau yma bob dydd gyda’r ci ac ers dechrau’r prosiect rwyf wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o gacwn a pheillwyr eraill sydd o gwmpas, sy’n dangos bod y prosiect yn llwyddiant yn barod.” 
Dros y ddwy flynedd nesaf mae tîm y Prosiect yn gobeithio gallu dangos bod gofalu am beillwyr yn hawdd ac ymarferol, ac mae yn mynd law yn llaw gyda chynhyrchu llaeth o safon.

Mae EIP Wales, yn cael ei redeg gan Menter a Busnes, ac wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae poblogaeth y cacwn a pheillwyr eraill yn y Deyrnas Unedig dan fygythiad cynyddol. O’r 270 rhywogaeth o wenyn a gofnodwyd yn y Deyrnas Unedig, rydym wedi colli 13 rhywogaeth gyda 35 dan fygythiad y byddant yn diflannu. 

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gadwraeth Cacwn yn 2006 ac mae’n sefydliad a arweinir gan wyddoniaeth gyda phrosiectau ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’r Ymddiriedolaeth yn anelu at ysbrydoli pobl i helpu i gynnig y cynefin y mae ar y pryfed carismatig yma eu hangen ar draws cymunedau a chefn gwlad i sicrhau bod gan y boblogaeth hon ddyfodol tymor hir yn y Deyrnas Unedig. https://www.bumblebeeconservation.org/.

Nod EIP Wales yw datrys problemau amaethyddol a choedwigaeth cyffredin trwy ddwyn pobl o gefndiroedd ymarferol a gwyddonol at ei gilydd. Mae’n gyfle i ffermwyr a choedwigwyr roi eu syniadau ar waith trwy brofi technolegau neu dechnegau newydd. 
E-bost: eipwales@menterabusnes.co.uk 

Cynhaliodd Calon Wen ddiwrnod agored ar 9 Hydref 2018 i ffermwyr, cynghorwyr, ymchwilwyr ac aelodau o’r cyhoedd i esbonio’r Prosiect ac ystyried y cynnydd hyd yn hyn. 

Cydnabyddiaeth llun – Calon Wen. Diwrnod agored y grŵp porfa i beillwyr ar Cop House Farm, ger Caer.