Mae arolwg diweddar yn dangos bod llawer o ffermwyr yn gyfarwydd â Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau) ond heb fod yn ddigon hyderus i'w defnyddio wrth brynu hyrddod.

Mae'r data, a gasglwyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) yn Arwerthiant Hyrddod diweddar NSA Cymru, wedi dangos er bod 80% o’r prynwyr yn gyfarwydd ag EBVau, dim ond 23% a’u defnyddiodd wrth ddewis hwrdd newydd. 

Mae EBVau yn cynnig data ynghylch nodweddion perfformiad a gofnodwyd megis: rhinweddau mamol, pwysau-wyth-wythnos, trwch braster a thrwch cyhyrau ac maen nhw’n fodd i ffermwyr brynu hyrddod yn seiliedig ar ddata a gwybodaeth yn hytrach na barnu ar yr olwg allanol.  O blith y rhai a gymerodd ran yn yr arolwg ac a brynodd  hyrddod ar sail EBVau, rhinweddau mamol oedd y nodwedd bwysicaf, ac yna pwysau-wyth-wythnos a thrwch cyhyrau.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Geneteg Preiddiau HCC, Gwawr Parry, sy'n cydlynu Cynllun Hyrddod Mynydd HCC:  'Geneteg yw'r unig ddylanwad sydd gan hwrdd dros ei epil, ac felly mae'n fuddiol i brynwyr a ffermwyr ddeall yr hyn y mae hyrddod yn ei gynnig i breiddiau’r dyfodol wrth wneud penderfyniadau prynu.’

Mae'r Cynllun Hyrddod Mynydd yn brosiect pum-mlynedd sy’n rhan o'r Rhaglen Datblygu Cig Coch i annog cofnodi perfformiad yn y sector fynydd a deall EBVau. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu fel rhan o Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

‘‘Er ei bod yn galonogol gweld bod cymaint o ffermwyr yn gyfarwydd â’r term, mae’r ffaith nad yw cynifer o ffermwyr yn defnyddio EBVau wrth gynllunio diadelloedd yn dangos bod y prosiect hwn yn amserol ac yn bwysig.’

Wrth i’r Cynllun Hyrddod Mynydd ddatblygu, bydd mwy a mwy o hyrddod â chofnodion perfformiad ar gael i brynwyr – sy’n golygu y bydd ffermwyr yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus sy’n addas ar eu cyfer - pa un ai gwell rhinweddau mamol neu well cyfraddau twf.

‘Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Hyrddod Mynydd hefyd yn derbyn hyfforddiant ar ddeall a dadansoddi EBVau a ddylai, yn bwysig iawn, wella hyder wrth eu hesbonio i ddarpar gwsmeriaid.’

Ar hyn o bryd mae saith Diadell Arweiniol ac ugain o gyfranogwyr newydd yn y cynllun a fydd yn derbyn cefnogaeth a hyfforddiant gan HCC yn ystod y blynyddoedd nesaf er mwyn cael y nifer tyngedfennol o gofnodwyr perfformiad ar gyfer bridiau mynydd Cymru  i wneud sector defaid Cymru yn fwy effeithlon a gwydn.