Mae milfeddygon yn cymell ffermwyr yng Nghymru i wneud profion ar eu diadelloedd a buchesi fel y cam cyntaf i gadw eu hanifeiliaid iach yn rhydd rhag Clefyd Johne.

Mae hwn yn glefyd nad oes wella iddo, sy’n datblygu’n araf ac sy’n ymledu trwy dom, llaeth, colostrwm – a thrwy’r groth.

Credir ei fod yn bresennol mewn tua 90% o’r buchesi llaeth yng Nghymru a bod 5% o’r anifeiliaid yn y buchesi hyn wedi eu heintio.

Yn ei ffurf glinigol, mae'n tewychu’r coluddyn, gan atal gwartheg a defaid rhag amsugno maethynnau. Y canlyniad yw dolur rhydd cronig, colli pwysau cynyddol, a marwolaeth yn y pen draw.

Ar lefel is-glinigol, mae’n amharu ar y system imiwnedd ac yn achosi ffrwythlondeb gwael a llai o gynhyrchiant.

Mewn ymgais i reoli Clefyd Johne -  a’i ddileu yn y pen draw – mae milfeddygon ledled Cymru yn darparu cyrsiau hyfforddi byr. Cafodd y rhain eu hariannu'n llawn trwy raglen Datblygu Sgiliau Lantra, a chafodd yr hyfforddiant ei ddatblygu ar y cyd gan raglen Cyswllt Ffermio a'r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid (NADIS).

Cynhaliwyd y cyntaf o'r cyfarfodydd hyn yn Sir Benfro lle bu’r milfeddygon Mike John ac Alex Cooper o Filfeddygfa Fenton, Hwlffordd, yn cynnal gweithdy.

Eu cyngor i ffermwyr oedd y dylen nhw, fel cam cyntaf, ganfod beth yw’r sefyllfa o ran Clefyd Johne yn eu buchesi, trwy gynnal profion ar 30 o fuchod. 

“Dyna'r ffordd orau o ddechrau oherwydd nes byddwch chi'n gwybod y sefyllfa, fyddwch chi ddim yn gwybod sut i ddelio â hi," meddai Mr Cooper.

Gall diagnosis fod yn anodd am fod lefel yr gwrthgyrff yn codi a gostwng, a gall fod angen tri neu bedwar prawf cyn gallu cadarnhau'n bendant fod anifail yn dioddef o’r clefyd.

Mae'n anodd canfod y clefyd mewn gwartheg ifainc oherwydd yn aml does ganddyn nhw ddim gwrthgyrff.  Mae gan y bacteriwm sy'n achosi Clefyd Johne gyfnod deor o rhwng tair a phum mlynedd. Felly,  gallai buwch fod wedi’i heintio, ond heb fod yn heintus nac yn dioddef o’r symptomau.

Mae Mr Cooper yn argymell profi gwartheg rhwng tair a saith oed.

"Dewiswch y gwartheg hŷn, y rhai sydd â chyfrifiad uchel o gelloedd y corff, y perfformwyr gwael, y rhai sydd yn gloff drwy’r amser.”

Yn aml, heb brofi, dydy ffermwyr ddim yn sylweddoli fod ganddyn nhw Glefyd Johne ar y fferm oherwydd mae’n bosib fod yr anifeiliaid sydd wedi'u heintio wedi cael eu tynnu o’r fuches oherwydd problemau eraill.

Mae hefyd yn anodd eu hadnabod.

“Mae rhai o'n cleientiaid yn cael eu synnu pan fyddan nhw’n cael canlyniadau eu profion oherwydd ambell waith gall anifail heintiedig fod y fuwch orau yn y fuches,” meddai Mr John. 

Mae'n argymell gwyliadwriaeth barhaus trwy wneud profion yn rheolaidd.

Cynghorir difa’r anifeiliaid sy'n profi'n bositif ac sydd yng nghyfnod clinigol yr heintiad  oherwydd byddan nhw’n heintio anifeiliaid eraill trwy ollwng gwrthgyrff.

Daw'r perygl mwyaf o heintiad oddi wrth loi hyd at chwe mis oed.

Unwaith y mae Clefyd Johne yn cael ei gadarnhau, dylid rhoi cynllun ar waith i’w reoli, yn ddelfrydol ar y cyd â milfeddyg y fferm.

Hefyd, dylai fod yn gynllun penodol ar gyfer system y fferm honno. “Efallai nad y camau rheoli cyffredinol fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol ar gyfer eich system," meddai Mr Cooper wrth y ffermwyr.

Am ei bod yn anodd rheoli’r clefyd, cynghorodd ffermwyr i ddewis y buddion lleiaf i ddechrau, megis difa anifeiliaid heintus yn gyflym, cadw bwyd a dŵr yn lân, a gofalu bod hylendid yn y llociau lloia.

“Casglu colostrwm a llaeth yn y parlwr yw'r ffordd orau o leihau'r perygl o halogi gan dom," meddai.

Mae Mr Cooper yn argymell peidio â gorlenwi adeiladau am y bydd yr anifeiliaid yn fwy brwnt, a gwahanu lloi rhag unrhyw dom“Cadwch y llociau'n lân, a gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o wellt.”

Gwnewch yn siŵr ei bod yn hawdd adnabod yr anifeiliaid sy’n dioddef o Glefyd Johne; er enghraifft, rhowch dagiau lliwgar yn eu clustiau. Cadwch lecynnau buchod sych a llecynnau lloia ar wahân ar gyfer buchod heintiedig.  Hefyd, pan fydd lloi’n cael eu geni, cymerwch nhw oddi wrth eu mamau heintiedig, a magwch nhw â cholostrwm a llaeth artiffisial.

Ynyswch anifeiliaid anhwylus a rhowch brofion iddyn nhw.

Ni ddylid cadw lloi o famau heintiedig yn anifeiliaid cyfnewid; dylid defnyddio anifeiliaid o fuchesi Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg  (CHeCS) achrededig, yn arbennig teirw. 

Gall dom fod yn heintus am hyd at ddeuddeg mis, ac felly ni ddylid rhoi slyri ar gaeau sy’n cael eu pori gan anifeiliaid, yn enwedig anifeiliaid ifainc.

Yn ogystal â chyflwyno gweithdai Clefyd Johne mewn rhannau eraill o Gymru, bydd y rhaglen hyfforddi, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys modiwlau ar sut i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthlyngyrol, cynllunio iechyd anifeiliaid, gwaredu TB mewn gwartheg, lleihau cloffni, lleihau mastitis a cholledion wyna.

I gael rhagor o wybodaeth, siaradwch â’ch milfeddyg neu ewch i wefan Cyswllt Ffermio, sef https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/digwyddiadau