pobl

Fel rhan o ymgyrch barhaus grŵp gweithredu newydd ei lansio, sef Biwmares Di-blastig, mae digwyddiad arbennig yn cael ei drefnu i annog pobl leol i gymryd camau i leihau llygredd plastig.

Bydd Gwen Evans Jones, o’r grŵp yn cadeirio’r sesiwn, gyda siaradwyr gwadd yn cynnwys Dr Rob Elias, Cyfarwyddwr y Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor; Sian Sykes o Surfers against Sewage; a Sioned Thomas o Menter Môn.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Gwen:

“Rwy’n awyddus i annog busnesau a thrigolion lleol i ddod i’n noson ar y 12fed o Dachwedd yn y Ganolfan yn Biwmares. Mae croeso i bawb – a bydd yn gyfle gwych i ddysgu sut y gallwn ni i gyd wneud newidiadau i'r ffordd rydym yn defnyddio ac yn cael gwared ar blastig. Mae’n rhaid inni weithredu rŵan os ydym am wneud gwahaniaeth i amddiffyn ein bywyd morol a lleihau llygredd plastig.

“Rydym yn falch iawn o groesawu Dr Rob Elias fel un o'n siaradwyr – bydd yn trafod y datblygiadau diweddaraf mewn deunyddiau amgen, ac yn tynnu sylw at ffyrdd y gallwn leihau ein defnydd o blastig.”

Lansiwyd yr ymgyrch yn Biwmares fis Hydref eleni ac mae pedwar busnes eisoes wedi cofrestru i fod yn rhan o’r gwaith, sef Mercado; Jackfruit; Canolfan Hamdden Biwmares; a Caffi  Happy Valley. Y gobaith yw y bydd y digwyddiad yn annog eraill i gymryd rhan hefyd. 

Ychwanegodd Sioned Thomas o Menter Môn:

“Rydym yn falch o fod yn rhan o ymgyrch Biwmares Di-blastig ac yn gobeithio y bydd trigolion a chwmnïau lleol yn ymuno â ni yn y digwyddiad arbennig hwn. Gyda chynnydd mewn ymwybyddiaeth a chyhoeddusrwydd mae pawb bellach yn deall y difrod y mae plastig yn ei achosi i fywyd gwyllt – mae'n bryder enfawr ac yn rhywbeth y dylai ni gyd gymryd cyfrifoldeb drosto. Ein nod ni fel sefydliad yw mynd i'r afael â’r heriau sy'n wynebu ein cymunedau, ac mae'r prosiect hwn yn gwneud hyn yn union."

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Ganolfan, Biwmares ddydd Mawrth 12fed o Dachwedd am 17:30. Cysylltwch â Heulwen Williams i gael mwy o wybodaeth yn Heluwen@madryn.co.uk.

Mae Biwmares Di-blastig yn brosiect LEADER, sy’n cael ei redeg dan faner Arloesi Môn, Menter Môn. Mae wedi derbyn nawdd drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Nod prosiectau LEADER yw adnabod a pheilota ymatebion arloesol i’r heriau y mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu. Bydd canlyniadau a llwyddiannau’r cynllun hwn yn cael eu rhannu y tu hwnt i Biwmares fel y gall cymunedau ledled Môn elwa hefyd.