Farm Business Grant – Yard Coverings

Bydd cynllun newydd, Grant Busnes Fferm – y Cynllun Gorchudd Iardiau, yn agor ar gyfer datganiadau o ddiddordeb ar 9 Tachwedd ac yn cau ar 18 Rhagfyr 2020. Bydd cyllideb o £1.5 miliwn ar gael ar ei gyfer. 

Bydd y cynllun Grant Busnes Fferm – y Cynllun Gorchuddio Iardiau yn rhoi cymorth i ffermwyr er mwyn iddynt gael codi to dros unrhyw fannau bwydo da byw, mannau crynhoi da byw, mannau storio tail, storfeydd slyri a storfeydd silwair sy’n bodoli eisoes ac nad oes arnynt unrhyw orchudd ar hyn o bryd. Bydd y cynllun yn rhoi cymorth ar gyfer rhai eitemau eilaidd hefyd, gan gynnwys nwyddau dŵr glaw ar gyfer adeiladau sy'n bodoli eisoes, systemau cynaeafu dŵr glaw a phecynnau dadansoddi slyri. 

Wrth gyflwyno datganiad o ddiddordeb ar-lein, bydd gofyn i ymgeiswyr nodi ar fap digidol lle bydd y rhan fwyaf o'r eitemau yn cael lleoli, a bydd gofyn hefyd iddynt gyflwyno ffotograffau â geotagiau. Bydd yn ofynnol, fel rhan o'r broses hawlio, i ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno ffotograffau â geotagiau ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau. Bydd dogfennau ar gael cyn hir a fydd yn rhoi canllawiau manwl am y cymorth grant ac am y meini prawf y bydd angen cwrdd â nhw er mwyn bod yn gymwys i gael grant.

Yn wahanol i gylchoedd blaenorol, nid oes gofyn i unrhyw un sy’n bartner yn y busnes fynd i ddigwyddiad ymwybyddiaeth strategol cyn gwneud cais am arian grant o hyd at 40% o'r costau safonol a bennir.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn, cliciwch yma.