Mesur 4.1
Ffocws y cyfnod Datgan Diddordeb hon fydd helpu ffermwyr yng Nghymru i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol eu daliadau amaethyddol.
Amserlenni
1. Bydd y nawfed cyfnod ymgeisio ar gyfer Datgan Diddordeb yn y Grant Busnes i Ffermydd (FBG) (Y Grant Busnes i Ffermydd | Is-bwnc | LLYW.CYMRU) ar agor o 1 Medi 2021 ymlaen.
2. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Hydref 2021.
3. Gellir cyflwyno datganiadau diddordeb unrhyw bryd yn ystod y cyfnod ymgeisio hwn.
Y cyllid sydd ar gael
4. Mae gan y cyfnod Datgan Diddordeb hwn o’r FBG gyllideb o £2 filiwn.
Cymhwystra
5. Nid yw'n ofynnol ichi fynychu digwyddiadau Sioeau Teithiol ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’ a gynhelir gan Cyswllt Ffermio.
6. Os ydych wedi gwneud cais am y FBG mewn unrhyw rownd flaenorol a bod eich Datganiad o Ddiddordeb wedi'i ddewis, ond heb gyrraedd yr uchafswm o £12,000, gallwch wneud cais yn y rownd hon neu rownd yn y dyfodol. Rhaid i werth grant eich Datganiad o Ddiddordeb fod yn £3,000 neu fwy.
7. Os ydych wedi gwneud cais am FBG mewn rowndiau blaenorol a bod eich Datganiad o Ddiddordeb wedi'i ddewis ac yn gyfanswm o £9000 neu fwy ond heb gyrraedd yr uchafswm o £12,000, rhaid i chi ddewis o leiaf un eitem gydag isafswm gwerth grant o £3000 neu fwy a bydd hyn yn cael ei ariannu'n rhannol gan ddefnyddio'r dyraniad sy'n weddill sydd ar gael i chi.
8. Mae hwn yn gynllun ar wahân i'r Grant Busnes Fferm – Y Cynllun Gorchuddio Iardiau, felly, ni fydd unrhyw daliad a gewch ar gyfer y Grant Busnes Fferm – Y Cynllun Gorchuddio Iardiau yn cyfrif tuag at uchafswm gwerth grant y FBG.
9. Y dyfarniad grant lleiaf yw £3,000, neu beth bynnag sydd ar gael i chi o hyd, lle mae hyn yn llai, ar ôl gwneud cais llwyddiannus o'r blaen.
10. Uchafswm y dyfarniad grant yw £12,000.
11. Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod eitemau a brynir yn bodloni'r fanyleb lawn ar gyfer eitemau, fel y nodir yn y canllawiau.
Gall ymgeiswyr gyflwyno cwestiynau am eu Datganiad o Ddiddordeb a'r broses ymgeisio gan ddefnyddio eu cyfrif ar-lein RPW.