Local Action Group supporting Pembrokeshire

Mae Arwain Sir Benfro, y Grŵp Gweithredu Lleol ar gyfer Sir Benfro, wedi cyfarfod i drafod syniadau newydd gan grwpiau cymunedol sydd wedi gwneud cais am Gyllid LEADER.

Mae'r Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) yn hyrwyddo cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth trwy ddod â sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb yn natblygiad ein cymunedau at ei gilydd.

Dywedodd Nic Wheeler, Cadeirydd y LAG:

"Mae'r Grŵp Gweithredu Lleol a'r gronfa LEADER yn ymagwedd leol at ddatblygu gwledig. Rydym wedi bod yn cefnogi syniadau grwpiau i ddarparu gwell gwasanaethau lleol, i brofi syniadau newydd neu i gynnal astudiaethau dichonoldeb.

"Mae prosiectau hynod eclectig wedi cael cefnogaeth. Un o’r prosiectau cyntaf a gymeradwywyd oedd prosiect saith mis, yn treialu gwasanaeth paru rhannu lifft yn Sir Benfro, yn cysylltu pobl sy'n teithio i'r un gyrchfan. Fe wnaeth y buddsoddiad o £5,047 gan LEADER alluogi PACTO i gael cyllid o’r Gronfa Loteri Fawr werth £200,000 ar gyfer prosiect pum mlynedd i greu llwyfan rhannu lifft pwrpasol, i gyflogi staff, i godi ymwybyddiaeth a datblygu'r feddalwedd angenrheidiol. Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar Sir Benfro, ond mae potensial i'w ddefnyddio mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.

"Un arall o’r prosiectau a gymeradwywyd yn gynnar oedd Odyn Ganoloesol Neuadd Goffa Trefdraeth sydd i'w gwblhau yn fuan. Cyfrannodd LEADER £52,500 i’r prosiect gwerth £75,000. Mae'r prosiect wedi creu atyniad twristiaeth newydd a fydd yn gwella profiad twristiaid treftadaeth ddiwylliannol, gan ddarparu buddion cymdeithasol ac economaidd, dysgu a bywiogrwydd i Drefdraeth a'r cyffiniau.  Mae’n sicrhau hefyd bod cymuned Trefdraeth a'r ardaloedd cyfagos yn gallu manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan heneb ganoloesol a oedd heb ei chyffwrdd o’r blaen."

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae tîm Arwain Sir Benfro yn PLANED yn cefnogi prosiectau sydd wedi’u cymeradwyo, gan fesur effaith ac edrych ar y camau nesaf ar gyfer y syniadau prosiect a ddatblygwyd o dan LEADER.

Bydd Tîm Arwain Sir Benfro yng Nghyfarfod nesaf y Fforwm Cymunedol rhwng 5.30 a 8.30pm ar 5 Rhagfyr yn Neuadd Pater, Doc Penfro i drafod adeiladu cyfoeth cymunedol. Bydd hyn yn cynnwys siaradwyr o'r Oriel VC a Chynllun Cynnig Cyfranddaliadau Cydweithredol Cymunedol Sir Benfro.
 
Cysylltwch â Benjamin i archebu lle yn y Rhwydwaith Fforwm Cymunedol: benjamint@planed.org.uk


Nodiadau:

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Arwain Sir Benfro yn bartneriaeth gyda chynrychiolwyr o sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, ac fe'i ffurfiwyd i gyflwyno rhaglen LEADER 2014-2020 yn Sir Benfro, ac mae dros £3,300,000 o arian wedi'i sicrhau i gefnogi prosiectau sy'n profi syniadau newydd sydd o fudd i Sir Benfro ac yn cyfrannu at economi gystadleuol, gynhyrchiol a chynaliadwy yn Sir Benfro.

Mae'r gronfa LEADER yn Sir Benfro wedi bod yn rhedeg am bedair blynedd ac mae wedi cefnogi dros 60 o brosiectau hyd yn hyn. Mae mwy o brosiectau i’w hariannu o hyd. Mae'r LAG yn ystyried ystod gyffrous o geisiadau ar hyn o bryd ac unwaith y cymeradwyir hwy bydd mwy o newyddion i ddilyn.

Arwain Sir Benfro yw'r Grŵp Gweithredu Lleol ar gyfer y sir, ac fe'i gweinyddir gan PLANED.