Sleid cyflwyniad o Miller Researchv

Sefydlwyd Uned Gefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru yn unol â Rheoliadau Ewropeaidd ar gyfer cyflawni Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru.   

Mae’r uned yn cynnwys chwe aelod a phrif waith yr uned yw cefnogi y Cynllun Datblygu Gwledig drwy hyrwyddo pob cyfle am gyllid drwy roi cyhoeddusrwydd i’r Cyfnod Mynegi Diddordeb.  Mae’r uned yn cynnal nifer o weithgareddau ychwanegol a’r hyn sy’n allweddol i’w waith yw Cysylltu â Rhanddeiliaid.  

Mae Rheoliadau Ewroepaidd yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal Gwerthusiad o’r Rhwydwaith ac mae’r Rhwydwaith Cymorth yn falch o gyhoeddi penodiad Miller Research.

Bydd Miller Research yn cynnal y gwerthusiad drwy nifer o sianeli a phlatfformau dros gyfnod o 12 wythnos a ddaw i ben gydag adroddiad terfynol ar 23 Tachwedd.  Bydd yr adroddiad yn cynnwys adborth gan randdeiliaid, partneriaid a buddiolwyr, gan helpu’r uned i ddeall yr hyn gafodd ei wneud yn dda, beth y gellid ei wella a pha fylchau, os oes rhai, fu yn y rhaglen o weithgareddau ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gwledig bresennol.

Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion posibl allai helpu i lunio dyfodol Datblygu Gwledig.