Cynhelir Gwobrau Cyfleoedd Llywodraeth Cymru (GO) eleni ar-lein.

Ers gohirio'r seremoni wobrwyo yr oedd disgwyl ymlaen yn eiddgar amdano ym mis Mawrth, cynhelir Gwobrau Cyfleoedd Llywodraeth Cymru (GO) eleni ar-lein ddydd Gwener 19 Mehefin 2020, 13:00pm – 15:00pm.

Dyma fydd pedwerydd Gwobrau GO Cymru, a'r gwobrau caffael cyntaf erioed i gael eu cynnal yn gyfan gwbl ar-lein! Gan ddefnyddio technoleg arloesol a rhyngweithiol, bydd y digwyddiad yn dod â phawb ynghyd ar-lein i ddathlu rhagoriaeth ym maes caffael yn y sector cyhoeddus.

Eleni, mae ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestr fer ar draws naw prif gategori, gan gynnwys categori newydd ar gyfer 2020; gwobr Yr Effaith Amgylcheddol Orau. Mae'r wobr hon wedi'i chynllunio i dynnu sylw at y sefydliadau hynny sydd wedi mynd i'r afael â mater effaith amgylcheddol ar draws eu gweithgareddau caffael a'r gadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau gwell canlyniadau a manteision.

Cyhoeddir y rhestr fer ar gyfer y categori Rhagoriaeth GO ychwanegol yn fyw yn ystod y digwyddiad.

Ar draws y naw categori, mae cyfanswm o 41 o geisiadau o bob rhan o lywodraeth leol; llywodraeth ganolog; y GIG; addysg; tai; a sefydliadau'r trydydd sector a'r sector preifat wedi cyrraedd y rownd derfynol yn llwyddiannus eleni.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau a manylion am sut i ymuno â'r digwyddiad byw, ewch i: Gwobrau GO Cymru.

Peidiwch â cholli allan ar y Gwobrau GO Cymru ar-lein cyntaf erioed a phob lwc i bawb sydd wedi ymgeisio.