HCC Highlights Benefits of Proactive Flock Management at Weaning Time

Mae Hybu Cig Cymru (HCC), sy’n arwain y prosiect pum mlynedd ‘Stoc+’ i hyrwyddo arfer gorau mewn rheoli iechyd y ddiadell a’r fuches, wedi tynnu sylw at dri maes allweddol a all roi budd i ffermwyr defaid wrth i lawer ohonynt baratoi i ddyfnu ŵyn eleni.

Erbyn 8 wythnos oed, daw cymeriant egni ŵyn yn bennaf o fwyta glaswellt, gyda swm isel o egni yn dod o laeth y mamogiaid. Mae dyfnu fel arfer yn digwydd rhwng 12-14 wythnos ar ôl ŵyna, ond mae amrywiaeth o ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniad ffermwyr o ran yr amseru gorau ar gyfer eu diadell.

Yn ôl Swyddog Iechyd Praidd a Buches HCC, Lowri Williams, gall cadw llygad ar dri ffactor – pwysau, porfa a brechu – helpu i ddyfnu ar yr adeg iawn, hyrwyddo iechyd y mamogiaid a’r ŵyn, a sicrhau effeithlonrwydd ar y fferm.

“Cyn dyfnu, tra bod yr ŵyn yn dal i fod gyda’r mamogiaid, mae milfeddygon yn argymell brechu ŵyn yn erbyn clefydau clostridiol,” meddai Lowri. “Ni fydd colostrwm mamogiaid ond yn darparu amddiffyniad am rhwng 3 a 4 mis, felly dyma’r amser delfrydol i weithredu i atal cyflyrau fel clefyd du.”

Ychwanegodd, “Mae rheoli porfa hefyd yn bwysig ar hyn o bryd. Dylid troi ŵyn i borfeydd glân nad ydynt wedi cael eu pori ers ychydig fisoedd, gan y bydd lefel isel o larfau parasitiaid. Dylid cyfyngu ar bori mamogiaid i atal cynhyrchu llaeth, gan gadw llygad allan am fastitis.”

“Yr elfen bwysicaf yw bod angen monitro pwysau ŵyn, er mwyn helpu i sicrhau’r amseriad cywir,” eglurodd Lowri. “Mae ymchwil wedi awgrymu os yw cynnydd pwysau dyddiol ŵyn yn is na 200g dylent gael eu dyfnu’n gynt i sicrhau eu bod yn derbyn digon o faeth. Mae asesiad o bwysau ŵyn hefyd yn helpu i sicrhau bod dosau brechu a llyngyr mor gywir â phosibl.”

Mae ystod eang o lenyddiaeth, gan gynnwys y llawlyfr Iechyd Defaid, ar gael yn adran ‘Adnoddau’ gwefan HCC, www.hybucig.cymru

Mae'r Prosiect Iechyd Diadell a Buches ‘Stoc+’ yn un elfen o Raglen Datblygu Cig Coch HCC, sef menter strategol 5 mlynedd a gynlluniwyd i wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb diwydiant cig coch Cymru. Ariannwyd y Rhaglen drwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig 2014 - 2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.