Hoppa Harlech

Ydych chi’n cofio’r prosiect Hoppa Harlech y bu’m ni’n rhedeg dros wyliau’r haf y llynedd? Roedd y prosiect diddorol yma yn ceisio lleihau traffig yn rhan uchaf tref Harlech, ond hefyd yn ceisio annog pobl i aros yno yn hirach a gwario.

Mae un o brif atyniadau Harlech, sef y castell wedi ei leoli yn rhan uchaf y dref, ac fel mae’r anrhydedd o gael yr allt fwyaf serth yn y byd yn awgrymu, mae ‘na allt serth iawn ato! Oherwydd hyn mae nifer fawr o bobl yn gyrru i fyny ac yn ceisio parcio yn rhan uchaf y dref. Mae hyn yn arwain at broblemau mawr gyda thraffig, a gan nad oes llawer o le i barcio yno roedd pobl yn gadael os nad oedd bosib cael lle.

Er mwyn ceisio helpu’r sefyllfa yma, bu i Arloesi Gwynedd Wledig drefnu bws wennol i gario pobl o’r maes parcio mawr yng ngwaelod Harlech i fyny i ran uchaf y dref bob hanner awr, bob dydd yn ystod y gwyliau haf. Roedd y prosiect mor llwyddiannus, mae’r gymuned yn ei redeg eu hunain eto flwyddyn yma!

Dyma Freya Bentham, Cynghorydd ardal Harlech yn esbonio sut gwnaeth y prosiect eu helpu.

“Bu’r prosiect y llynedd yn ddefnyddiol dros ben, hebddo ni fyddai wedi bod yn bosib gwybod pa mor llwyddiannus fyddai’r Hoppa ac os oedd werth y buddsoddiad. Mi wnaeth Arloesi Gwynedd Wledig hefyd gynnal arolwg o ymwelwyr Harlech fel rhan o’r prosiect, ac mae’r data yma wedi helpu i ni brofi bod yr Hoppa wedi annog mwy o bobl i wario wrth ymweld â Harlech Uchaf ac yn gwneud iddynt aros yno yn hirach. Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer busnesion Harlech Uchaf.”

Drwy gefnogaeth AGW mae’r grŵp yn Harlech wedi cael yr hyder i fynd ymlaen gyda’r Hoppa ei hunain eleni. Maent wedi dysgu beth wnaeth weithio a beth wnaeth ddim, gan brofi pwysigrwydd peilota. Yn ei hanfod, pwrpas AGW yw i beilota, dysgu a rhannu, ac mae’r prosiect yma yn enghraifft berffaith o hynny ar waith.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.