Russell Morgan next to robot milker

Disgwylir i ddull o dargedu cloffni mewn buches laeth sy’n cael ei godro gan robotiaid yn Sir Fynwy ddarparu gwybodaeth werthfawr newydd a fydd yn helpu cynhyrchwyr llaeth eraill i wella iechyd y traed ymhlith eu buchesi eu hunain.

Fel llawer o ffermwyr llaeth, mae Russell Morgan wedi bod yn cael trafferth gyda dermatitis digidol yn ei fuches dan do o 170 o wartheg Holstein sy’n uchel eu cynnyrch ar fferm Graig Olway, safle arddangos newydd Cyswllt Ffermio yn Llangyfiw, Brynbuga.

Dermatitis digidol yw un o’r problemau cloffni mwyaf cyffredin ymhlith buchesi sy’n cael eu godro gan robotiaid.

Trwy ei waith gyda Cyswllt Ffermio, mae Mr Morgan yn dilyn Rhaglen Traed Iach yr AHDB, gyda’r nod o ostwng cyfradd gyfredol yr achosion i lai na 10%. Yn seiliedig ar y data cyfredol am y difrod, mae wedi dewis trin y broblem drwy ei thargedu’n uniongyrchol.

Bydd data o’r prosiect hwn yn cael eu rhannu gyda ffermwyr mewn digwyddiad agored Cyswllt Ffermio ar fferm Graig Olway ar 24 Mawrth o 11am ymlaen.

Yn ôl Gwenan Evans, swyddog technegol llaeth Cyswllt Ffermio, bydd yr wybodaeth a gesglir drwy fonitro’r triniaethau yn creu’r astudiaeth achos gyntaf o’i bath o fewn buches system robot, ac mae’n sicr bydd y canlyniadau o fudd i ffermwyr llaeth eraill hefyd, ni waeth a ydynt yn ffermio gyda system robot neu beidio.

Trwy leihau achosion o gloffni a gwneud y gwartheg yn fwy cysurus, mae Mr Morgan yn gobeithio bydd hyn yn arwain at gynhyrchu rhagor o laeth, ynghyd â gwella lles y gwartheg.

Pwnc arall dan sylw yn ystod y digwyddiad agored fydd capasiti storio slyri’r fferm a’r camau y gellir eu cymryd i leihau’r pwysau ar yr isadeiledd hwn.

Dyma un o’r prif rwystrau sy’n atal Mr Morgan rhag cyflwyno pedwerydd robot godro ac ychwanegu 50 o wartheg i’r fuches.

Byddai’r capasiti storio slyri presennol yn annigonol ar gyfer y slyri fyddai’n cael ei gynhyrchu gan 50 anifail ychwanegol ac mae hyn yn atal Mr Morgan rhag bwrw ymlaen â’i gynlluniau ehangu.

Fodd bynnag, trwy weithio gyda Cyswllt Ffermio ac Eoin Murphy o ADAS, a fydd yn siarad yn y digwyddiad agored ar 24 Mawrth, bydd Mr Morgan yn archwilio ffyrdd o leihau dŵr ffo glân i’r storfa slyri.

Bydd Mr Murphy hefyd yn arwain trafodaethau i ystyried sut i ddewis safleoedd a bodloni rheoliadau cynllunio ac adeiladu.

“Mae cael storfa slyri ddigonol ar y fferm, sy’n cael ei chynnal yn dda ac sy’n ddigon mawr i storio gwerth chwe mis o slyri, yn galluogi ffermwyr i dargedu’r defnydd o fathau naturiol o dail sy’n cyfateb ag anghenion maeth y cnwd, yn hytrach na phan fydd y storfa yn llawn,’’ dywedodd Mr Murphy.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.