Gall y gogledd edrych tuag at ddyfodol gwyrddach, tecach a mwy ffyniannus a rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu, meddai Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates, heddiw.

Yn ystod yr wythnos pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chenhadaeth ar gyfer adfer ac adeiladu’r economi ar ôl pandemig coronafeirws (COVID-19), bydd y Gweinidog yn annerch uwchgynhadledd Cyngor Busnesau Gogledd Cymru a Mersi-Dyfrdwy am adferiad y rhanbarth.

Gan siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Ken Skates:

Mae’r flwyddyn a aeth heibio wedi bod yn un eithriadol o anodd i fusnesau, ac mae’r heriau’n parhau. Er y bydd yn rhaid delio â sefyllfaoedd wrth iddyn nhw godi, rhaid hefyd edrych tua’r dyfodol a meddwl sut y gallwn ailadeiladu.

Mae’r uwchgynhadledd yn un amserol iawn ac yn dangos sut y mae’r gogledd yn gweithio gyda’i gilydd fel rhanbarth a chyda’i phartneriaid ar draws y ffin. Mae hyn yn gryfder yn y rhanbarth.

Ddoe, cyhoeddais ein Cenhadaeth Cadernid Economaidd ac Ad-drefnu sy’n esbonio sut y byddwn yn ailadeiladu economi Cymru ar ôl covid, gan ganolbwyntio ar lesiant, ffyniant, yr amgylchedd a sicrhau bod pawb yn cael gwireddu ei botensial.

I gefnogi hyn, cyhoeddais hefyd £270 miliwn yn ychwanegol ar gyfer Cronfa Buddsoddi Hyblyg Banc Datblygu Cymru. Bydd hynny’n golygu y bydd rhagor na £500 miliwn ar gael trwy’r gronfa hyd at 2030 i helpu busnesau i lwyddo a thyfu yn y tymor hir, gan greu a diogelu miloedd o swyddi yng Nghymru.

Bydd Bargen Twf y Gogledd yn allweddol ar gyfer adeiladu a chefnogi’r rhanbarth dros y misoedd a blynyddoedd i ddod. Mae ganddi’r potensial i weddnewid economi’r rhanbarth, gyda’i nod i sbarduno £1 biliwn o fuddsoddiad. Fis Rhagfyr diwethaf, cefais y pleser o lofnodi cytundeb terfynol y fargen.

Rydym yn buddsoddi yn seilwaith trafnidiaeth y rhanbarth trwy raglen metro’r gogledd ac mae prosiectau mawr ar waith, fel ffordd osgoi gwerth £135 miliwn rhwng Caernarfon a’r Bontnewydd sy’n dod â buddiannau economaidd a chyfleoedd gwaith. Bydd y datblygiadau hyn yn ein helpu â’r gwaith tymor hir o ailadeiladu economi’r rhanbarth.

Mae’r heriau sy’n wynebu busnesau yn rhai anferth, ond rydym am gyd-gerdded â nhw bob cam o’r ffordd. Mae cyfle i ni nawr weithio gyda’n gilydd i ailadeiladu dyfodol tecach, gwyrddach a mwy ffyniannus lle na chaiff neb ei adael ar ôl a lle caiff pawb y cyfle i wireddu ei botensial.

Cynllunio a strategaeth ar gyfer busnes, yr economi ac arloesi

Genhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi