Carwen Bethesda

Mae Arloesi Gwynedd Wledig yn lansio cynllun ceir trydan cymunedol newydd i roi gwell cysylltiadau trafnidiaeth i bobl mewn ardaloedd gwledig.

Mae ganddyn nhw ddau gar, un wedi'i leoli yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen ym Methesda a'r llall yn Y Ganolfan Gymunedol yn Abergynolwyn. Gall pobl eu harchebu a'u defnyddio os ydyn nhw am gyrraedd rhywle pan nad oes bysiau, trenau neu dacsis ar gael neu y byddent yn costio gormod.

Gall ceir cymunedol ei gwneud hi'n haws i bobl mewn ardaloedd gwledig gyrraedd cyfweliadau swydd, apwyntiadau ysbyty, neu hyd yn oed mynd i siopa.
Bydd y cynllun yn lansio'n swyddogol ddydd Sadwrn 9fed o Dachwedd yn Neuadd Ogwen Bethesda a dydd Sul 10fed o Dachwedd yn Y Ganolfan Gymunedol yn Abergynolwyn.

Bydd Neil Lewis, Cydlynydd Adfywio Cymru, Rheolwr Ynni Lleol yn Ynni Sir Gar a ‘nerd’ hunan-gyfaddef cerbydau trydan yn rhoi sgwrs yn y ddau ddigwyddiad.

Eglurodd Neil:

“Gall cydberchnogaeth cerbydau trydan wneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau Cymru. Gostwng cost cludiant, gwella cyfleustra wrth frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Mae cerbydau trydan hefyd yn wych i'w gyrru. Arhoswch nes i chi deimlo'r ‘torque’. Wrth i bobl gael cyfle i brofi pa mor wych yw moduro EV fe'u hanogir i adael disel/petrol yn y gorffennol lle maent i fod.”

Dydd Sadwrn 9fed o Dachwedd rhwng 9am a 12pm yng Ngardd Gymunedol Llys Dafydd ym Methesda gall pobl alw heibio i weld y car a darganfod mwy am y prosiect. Bydd diodydd poeth am ddim a sudd afal lleol. Yna am 12pm yn y bar i fyny'r grisiau yn Neuadd Ogwen bydd sgwrs gyda Neil Lewis am EVs gan gynnwys ei brofiad personol o EVs, prosiectau ynni cymunedol a rhywfaint o chwalu chwedlau, cyn cyfle i gael sgwrs anffurfiol â Neil y tu allan yn Llys Dafydd dros ginio am ddim, cawl llysiau poeth a rholiau (o Gaffi Coed y Brenin, wedi'i weini o'r cwt).

Ddydd Sul 10fed o Dachwedd rhwng 12pm a 2pm yn Y Ganolfan Gymunedol yn Abergynolwyn bydd cyfle am sbin! Galwch heibio am daith o amgylch y car ac i gael eich gyrru o amgylch Abergynolwyn i brofi'r car ar waith! Am 3pm y tu mewn i'r Ganolfan bydd sgwrs Neil Lewis unwaith eto am EVs gan gynnwys ei brofiad personol o EVs, prosiectau ynni cymunedol a rhywfaint o chwalu chwedlau.

Bydd y ceir, o'r enw Carwyn a Carwen, yn cael eu rheoli gan y Bartneriaeth Ogwen ym Methesda ac Egni Abergynolwyn.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Rhys ar 01766 514 057 neu rhys@mentermon.com

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.