Monitor cyfrifiadur yn dangos siaradwyr cynhadledd

Cafodd Sefydliad newydd, Bro Môn, a fydd yn helpu i gefnogi a datblygu Mentrau Cymdeithasol dros Ynys Môn ei lansio’n swyddogol gan Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar 1 Rhagfyr 2020.

Seremoni rithiol oedd y lansiad, gyda mwy na 40 o wahoddedigion o Sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Canolfan Gydweithredol Cymru a’i rhaglen Busnes Cymdeithasol Cymru.

Gyda Peter Davies OBE yn cadeirio, addawodd Mr Waters, gyda Rhun ap Iorwerth AS Ynys Môn (trwy gysylltiad fideo) a Virginia Crosbie AS San Steffan Ynys gefnogi’r fenter a chymeradwyo’r syniad o ddarparu Sefydliad cefnogol a fyddai o fudd i Gymunedau ledled yr Ynys. 

Cafwyd datganiadau o gefnogaeth gan Dafydd Gruffydd, Menter Môn, a Peter Williams DTA Cymru ac yna sesiwn holi ac ateb lle’r oedd Cyfarwyddwyr presennol Bro Môn yn egluro sut y maen nhw’n gweld eu rôl wrth gefnogi a helpu egin fentrau ledled Môn. 

Dywedodd Dafydd Gruffydd o Fenter Môn:

“yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae’n braf gweld mentrau cymdeithasol yn dod at ei gilydd i gydweithredu, gan ddod yn wytnach ac yn ymrwymo i gefnogi mentrau eraill, tebyg, i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau, y cyfan trwy rannu gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr”.

Dymunodd yn dda i’r sefydliad ac roedd yn falch iawn o fod wedi cefnogi datblygiad Bro Môn trwy raglen LEADER Menter Môn sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig gyda chyfraniad gan Gronfa Elusennol Môn.”

Mae gwefan Bro Môn yn fyw erbyn hyn ac ar gael i unrhyw un sydd eisiau cysylltu â’r Sefydliad i gael cefnogaeth ar https://bromon.cymru