Minatour

Mae un o lwybrau beicio mynydd mwyaf poblogaidd Cymru wedi cael ei ymestyn a’i wella’n fwy fyth gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Caiff Llwybr y MinorTaur ym Mharc Coed y Brenin, ger Dolgellau, ei ddefnyddio gan fwy na 35,000 o feicwyr bob blwyddyn.

Ac yntau wedi’i gynllunio ar gyfer pawb o bob gallu, eisoes mae gan y llwybr dair dolen sy’n graddol gynyddu mewn hyd ac anhawster – gan helpu pobl i wella’u sgiliau a meithrin eu hyder wrth feicio.

Ac yn awr, mae CNC wedi cyflwyno pedwaredd ddolen sy’n cynnwys nifer o nodweddion technegol, fel neidiau a disgyniadau.

Medd Andy Braund, Ceidwad Beicio Mynydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Llwybr y MinorTaur yw’r llwybr beicio mynydd mwyaf poblogaidd rydym yn ei reoli o ddigon ar Ystad Goed Llywodraeth Cymru.

“Mae’n arbennig o unigryw gan fod modd i feicwyr mynydd anabl ddefnyddio’r tair dolen gyntaf ar feiciau wedi’u haddasu.

“Rydym wedi cynllunio’r bedwaredd ddolen newydd i fod â mwy o siâp a llif yn perthyn iddi. Mae nodweddion y llwybr yn nes at ei gilydd ac mae hyn yn arwain at lawer mwy o hwyl.

“Mae’n ddelfrydol ar gyfer pobl sydd eisiau perffeithio’u sgiliau cyn taclo’r llwybrau gradd coch anoddach.”

“Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gofalu am gynifer o lwybrau sy’n helpu pobl i wneud gweithgareddau egnïol yn yr awyr agored a chyfrannu at yr economi leol.”

Mae Llwybr y MinorTaur yn cynnwys nodweddion sy’n gyfarwydd i feicwyr mynydd, fel grisiau cerrig, rolyddion, mannau gwastad a neidiau.

Cafodd y llwybr ei agor yn swyddogol yn ystod sialens beicio mynydd y ‘Jr Antifreeze’ a drefnwyd gan Beics Brenin ar 16 ac 17 Mawrth.

Bu’n llwyddiant ysgubol, gyda feicwyr iau yn rhoi cynnig ar y ddolen newydd.

Darparwyd yr arian drwy'r cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS), sydd wedi'i anelu at sefydliadau cyhoeddus, trydydd sector a dielw ar gyfer buddsoddiad sy'n targedu prosiectau seilwaith ar raddfa fach (amwynderau ymwelwyr) yn y sector twristiaeth yng Nghymru. 

Mae'r prosiect hwn wedi cael ei ariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Coed y Brenin, a reolir gan CNC, yn cynnig llwybrau cerdded, rhedeg a chyfeiriannu hefyd.

Gall pobl glywed y diweddaraf am y digwyddiadau trwy ddilyn Coed y Brenin ar y cyfryngau cymdeithasol neu edrych ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.