Cyn bo hir, bydd hanes Cwmogwr yn cael ei adrodd ar hyd llwybr treftadaeth rhyngweithiol newydd

Bydd y llwybr yn dechrau ym Mharc Gwledig Bryngarw, ac yn troelli i fyny’r cwm ar hyd y llwybr beicio a cherdded i Nant-y-moel, a bydd paneli gwybodaeth wedi’u lleoli ar ei hyd, yn dogfennu gorffennol yr ardal ac yn amlygu mannau o ddiddordeb, yn ogystal â llwybrau beicio a cherdded ychwanegol.

Bydd ap newydd ar gyfer ffonau clyfar yn cael ei gysylltu â’r llwybr, er mwyn helpu i ddwyn hanes y cwm i’r presennol, a bydd y llwybr yn cyrraedd uchafbwynt gyda nodwedd gelf newydd ar safle hen Ganolfan Berwyn.

Bydd y Neuadd Goffa yn Nant-y-moel, sydd ar fin cael ei adnewyddu, yn Hyb Treftadaeth ar gyfer y cwm – gan arddangos creiriau a gwybodaeth am dreftadaeth, a bydd yn cynnwys arddangosfa dreftadaeth ddigidol yn y caffi cymunedol.

Mae cyllid gwerth £62,112 wedi cael ei ddarparu tuag at y prosiect gan dîm Datblygu Gwledig Reach Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr trwy’r Gronfa Cymunedau Gwledig Ffyniannus, a Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Meddai’r Cynghorydd Charles Smith, Gweinidog Cabinet y cyngor ar gyfer Adfywio ac Addysg: “Bydd y llwybr cyffrous hwn yn darparu etifeddiaeth barhaol o hanes Cwmogwr. Gan ei fod yn cael ei greu ar hyd y llwybr beicio, mae’n bosibl y bydd y prosiect yn arwain at gyfleusterau newydd ar gyfer llogi beiciau ym Mharc Gwledig Bryngarw, a bydd gorsaf cynnal beiciau hunanwasanaeth yn cael ei chynnwys ar hyd y llwybr. Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, a bydd y prosiect yn cymryd tua 18 mis i’w gwblhau.

“Bydd gan y gymuned leol ran fawr i’w chwarae yn y prosiect hwn, o ddylunio’r nodwedd gelf i gatalogio’r hanes lleol a chael mynediad at amrywiaeth o hyfforddiant perthnasol. Mae tîm Reach wedi gweithio’n agos gyda’r gwirfoddolwyr cymunedol, gan ddarparu cymorth sydd wedi arwain at geisiadau llwyddiannus am gyllid grant.”

Os hoffech wybod rhagor, neu os hoffech gymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch â’r tîm Reach trwy anfon neges e-bost i reach@bridgend.gov.uk

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae yna 21 o wardiau gwledig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n gymwys i gael cyllid datblygu gwledig. Os oes gennych syniadau ar gyfer eich cymuned wledig yr hoffech eu datblygu, ewch i www.bridgendreach.org.uk neu anfon neges e-bost i reach@bridgend.gov.uk am ragor o wybodaeth.