event details bilingual-rectangle

Bydd Coedwig Genedlaethol i Gymru yn rhedeg ar hyd a lled ein gwlad, yn rhoi hwb i’n hiechyd, ein heconomi a bywyd gwyllt ein gwlad. 

Bydd digwyddiadau Coedwig Genedlaethol i Gymru – Eich Safbwyntiau a’ch Lleisiau a gynhelir o 10-12 o Fawrth yn rhoi cyfle i chi fod yn rhan o’r cyfan. Rhannwch eich safbwyntiau a lleisiwch eich barn am nifer o gynlluniau a buddiannau ar gyfer eich gwlad. Archebwch heddiw 

Mae mwy i’r Goedwig Genedlaethol na choed yn unig. Mae’n llesol:-

  • I’r amgylchedd: mae’n cynyddu bioamrywiaeth, yn gwella ansawdd yr aer ac yn diddymu carbon o’r atmosffer.
  • I’n bywyd gwyllt: mae’n darparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt, ac yn creu cysylltiadau cynefinoedd ar draws trefi a chefn gwlad 
  • I’n pobl; Mae’n gwella iechyd corfforol a meddyliol, creu swyddi newydd a denu rhagor o ymwelwyr. 

Dyma ein gwreiddiau i Gymru’r dyfodol sy’n fyw ac yn ffynnu am genedlaethau i ddod. 

Mae digwyddiadau Coedwig Genedlaethol i Gymru – Eich Safbwyntiau a’ch Lleisiau yn rhoi cyfle i chi blannu eich syniadau eich hunan. Dywedwch wrthym:-  

  • Beth fuasech yn hoffi ei weld yn y Goedwig Genedlaethol? 
  • Sut buasech yn ei defnyddio 
  • Pa fuddiannau yr hoffech eu gweld yn dod yn ei sgil yn eich cymunedau a gweddill Cymru? 

Archebwch eich lle heddiw a rhannu eich safbwyntiau ar y Goedwig Genedlaethol i Gymru a chael lleisio eich barn!