Consultation

Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddyfodol buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru y tu allan i'r UE wedi cael ei ymestyn i 10 Mehefin 2020.

I gyfrannu at yr ymgynghoriad click yma.

Ar ôl eu datblygu gyda rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, rydym yn ymgynghori ar gynigion sy'n nodi ein pedwar maes blaenoriaeth buddsoddi (busnesau cynhyrchiol a chystadleuol, lleihau’r ffactorau sy’n arwain at anghydraddoldebau o ran incwm, cymunedau iachach a mwy cynaliadwy a'r economi di-garbon) a datganoli cyllid a phenderfyniadau yn agosach at y bobl a ddylai elwa.

Rydym yn cynnal pedair gweminar ymgynghori. Bydd pob un yn canolbwyntio ar wahanol ranbarth yng Nghymru. Bydd Rachel Garside-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Buddsoddi a Pholisi Rhanbarthol Llywodraeth Cymru, yn gwneud cyflwyniad ym mhob gweminar. 

Yn dilyn y cyflwyniad hwnnw, bydd Prif Swyddog Rhanbarthol Llywodraeth Cymru a chynrychiolydd o Fargen Ddinesig / Twf y rhanbarth yn cyflwyno'r diweddaraf o'r rhanbarth. 

Bydd pob gweminar yn dod i ben gyda sesiwn holi ac ateb. Cynhelir gweminar ranbarthol: 

Y Gogledd ar 11 Mai am 2pm; 
Y Canolbarth ar 12 Mai am 10am; 
Y De-orllewin ar 13 Mai am 2pm; 
A’r De-ddwyrain ar 14 Mai am 2pm. 

I gofrestru ar gyfer eich gweminar ddewisol, ewch i: https://shoutout.wix.com/so/afN70XAAs?cid=883b3c54-14e0-46ae-a812-10bab6853617#/main