Lewis

Cynhaliwyd Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru’n rhithiol eleni, yn cynnwys cyfres o deithiau rhyngweithiol, sesiynau blasu ar-lein ac ymgyrch fideo a chyfryngau cymdeithasol dwyieithog lwyddiannus yn tynnu sylw at y cynnyrch lleol gorau.  

Gwnaeth gwylwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig – yn cynnwys Bryster, Swydd Hertford a Sir Benfro – ymuno yn y dathliadau, yn amrywio o’r nosweithiau boblogaidd blasu caws a siytni i flasu jin, arddangosfeydd coginio a mwy.  

Mae’r busnesau fu’n cymryd rhan wedi bod yn arwyr bwyd yn 2020, ac roedden nhw’n dymuno diolch i’r cyhoedd yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a thu hwnt am eu cefnogaeth.

Farm Shop - Lewis

Yn eu plith mae Siop Fferm Lewis yn Eyton, Wrecsam; mae’r perchennog Mark Lewis wedi gweld twf cyson y cwmni dros ddau ddegawd, ond erioed wedi profi unrhyw beth fel heriau eleni.   

Wedi dweud hynny, roedd cael ei orfodi i gymryd cam yn ôl ac ailwerthuso yn fanteisiol.  

“Pwy fyddai wedi meddwl, wrth i ni groesawu 2020, y byddai hyn wedi digwydd! Mae wedi bod yn anhygoel,” meddai.  

“Roeddem ni’n hurt o brysur pan gyflwynwyd y cyfnod clo cyntaf ac, fel llawer o fusnesau, cawsom ein dal rhwng cynnydd enfawr yn y galw a gwerthiannau’n cynyddu a sicrhau cadw pobl yn ddiogel, wnaeth olygu cwtogi ar ystod y cynhyrchion roeddem ni’n eu cynnig a chyflwyno gwasanaeth danfoniadau a gwasanaeth clicio a chasglu."  

“Doeddem ni erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen, ond fe wnaethom ni lwyddo i fynd trwy’r misoedd cyntaf hynny ac, wrth edrych yn ôl, roedd yn un o’r pethau gorau a wnaethom ni oherwydd bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i sut y byddwn ni’n gweithredu’n y dyfodol.”  

Ychwanegodd Mark: “Am y tro cyntaf erioed mae gennym ni ffurflen archebion Nadolig ar-lein, sy’n boblogaidd iawn eisoes, ac yn fwy effeithlon."  

“Pwy wyr beth wnaiff ddigwydd o’r pwynt yma ymlaen, a beth a ddaw yn 2021. Y cyfan fedra’ i ei ddweud ydi diolch enfawr i’n holl gwsmeriaid – y rhai wnaeth ymuno gyda ni ac aros gyda ni, a’r rhai sydd wedi bod gyda ni am sawl blwyddyn."  

“Rydym ni’n gymuned agos ac fe wnaethom ni gadw gyda’n gilydd a gwneud yr hyn roeddem ni’n fedru ei wneud pan oedd pethau’n anodd. Y busnesau lleol oedd yno ar gyfer eu cymunedau, a fydd pobl ddim yn anghofio hynny.”  

Trefnir Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru gan Fwyd a Diod Bryniau Clwyd a Bwyd a Diod Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy, gyda chefnogaeth Cadwyn Clwyd, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac awdurdodau lleol Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych.  

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid Rhaglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, trwy’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.  

Talodd Donna Hughes, Swyddog Partneriaethau Busnes Cadwyn Clwyd, deyrnged i’r llu o fusnesau lleol wnaeth ymdrech arbennig yn ystod cyfnod argyfwng Covid, a diolchodd i gwsmeriaid am eu ffyddlondeb hefyd.  

Dywedodd fod yr ymateb i Flasu Gogledd Ddwyrain Cymru eleni wedi bod yn “anhygoel” ac ychwanegodd: “Rydym ni wedi derbyn cymaint o adborth cadarnhaol gan bobl yn y rhanbarth hon a ledled y wlad, sy’n rhagorol o ystyried 2020."

“Mae’r ymgyrch wedi dangos, unwaith eto, pa mor hanfodol bwysig yw ein busnesau bwyd a diod lleol i’r economi, a’r amrywiaeth wych o gynnyrch ansawdd uchel sydd gennym ni yma."  

“Gyda’r digwyddiadau’n cael eu cynnal ar-lein rydym ni wedi medru lledaenu’r neges hyd yn oed ymhellach, gan roi’r ardal hon ar y map fel un o brif gyrchfannau’r Deyrnas Unedig o ran bwyd a diod, a fydd yn cael sgîl effaith ar dwristiaeth yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth ein cefnogi ni.”  

Os hoffech gael gwybod mwy am Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol @taste_blasu neu anfon neges e-bost i taste.blas@gmail.com.  Mae croeso i chi edrych ar y wefan hefyd: www.tastenortheastwales.org.