Lambs

Bydd diddyfnu ŵyn pan fyddant yn 12-14 wythnos oed yn rhoi amser digonol i famogiaid adfer eu cyflwr ar laswellt cyn i'r tymor hyrdda gychwyn ymhlith diadellau Cymreig yn ystod yr hydref eleni.

Yn ôl Kate Phillips, ymgynghorydd defaid annibynnol, gwelir ystod eang o oedrannau diddyfnu ar ffermydd defaid yng Nghymru – mewn rhai achosion, ni chaiff ŵyn eu gwahanu o'u mamau nes byddant yn 20 wythnos oed.

Nid yn unig y gallai hyn fod yn niweidiol i'r famog, ond gall fod yn niweidiol i'r oen hefyd, gan fod cystadlu am laswellt a chynhyrchu llai o laeth yn effeithio ar gyfraddau twf.

Yn ystod cyfres o ddigwyddiadau rheoli diddyfnu ŵyn a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio ar draws Cymru, cynghorwyd ffermwyr gan Mrs Phillips “Y targed arferol yw diddyfnu erbyn 12-16 wythnos ond yn ystod rhai blynyddoedd, mae'n werth ystyried diddyfnu yn gynharach na hyn, ar ôl 10-14 wythnos, oherwydd y manteision i famogiaid ac ŵyn”.

“Gall cryn dipyn newid o flwyddyn i flwyddyn, o ganlyniad i'r tywydd a'r glaswellt sydd ar gael, ond mae ŵyn wedi gwneud llawer yn well eleni, felly nid oes unrhyw reswm pam na ellir diddyfnu pan fyddant yn 12 wythnos.”

O'r adeg pan fyddant yn wyth wythnos, mae ŵyn yn cael mwy o egni o laswellt na llaeth, felly bydd y gystadleuaeth am laswellt rhwng mamogiaid ac ŵyn yn cyrraedd pwynt tyngedfennol.

Bydd pwyso ŵyn pan fyddant yn wyth wythnos oed a sgorio cyflwr mamogiaid yn rhoi syniad da o ddyddiadau diddyfnu tebygol.  Os bydd mamog mewn cyflwr gwael ac mae tyfiant yr oen yn is na'r targed, efallai y bydd angen diddyfnu yn gynharach. 

Mae cyfradd tyfiant ŵyn yn cynnig syniad da o'r adeg i ddechrau diddyfnu, felly mae'n hanfodol eu pwyso yn rheolaidd.

Os na fydd ŵyn sydd ar ddiet o laeth a glaswellt yn tyfu ar raddfa o 200g/dydd neu fwy, mae hyn yn dynodi bod y famog yn rhedeg allan o laeth, bod cyflenwadau glaswellt yn gyfyngedig neu bod parasitiaid yn effeithio ar dyfiant.

Yn ystod y cyfnod diddyfnu, dylid rhannu mamogiaid i grwpiau yn ôl eu cyflwr – tenau, ffit a thew – a'u bwydo mewn ffordd briodol yn unol â hynny, gan roi'r glaswellt gorau i'r mamogiaid tenau.

Ar gyfer mamog ar dir isel sy'n pwyso 70 cilogram, y sgôr cyflwr corff (BCS) a dargedir wrth ddiddyfnu yw 2.5 a 2 i famog ucheldir sy'n pwyso 50 cilogram.  Dylai BCS mamog ar dir isel fod yn 3.5 pan fydd yn  cael ei throi at yr hwrdd a dylai BCS mamog ucheldir fod yn 2.5.

Mae angen 6-8 wythnos ar famogiaid i adennill un sgôr cyflwr corff (BCS), sy'n cyfateb â 10-13% o'u pwysau;  mae hynny'n 7 cilogram ar gyfer mamog sy'n pwyso 60 cilogram, ac mae hwn yn bwysau y mae modd ei fagu mewn 6-8 wythnos ar dir pori da, dywedodd Mrs Phillips.

Er mwyn sicrhau hyn gan laswellt a chodi un sgôr cyflwr corff, mae angen i gymeriant mamog ar dir isel fod yn 1.65kgDM/dydd o laswellt 11ME;  er mwyn i famogiaid ucheldir sicrhau BCS o 0.5, bydd angen cymeriant o 0.95kgDM/dydd o laswellt ME 10.

“Os nad ydych yn mynd i gyflawni hyn, rhaid i chi ystyried eich lefel stocio,” cynghorodd Mrs Phillips.

Mae hi'n argymell y dylid difa mamogiaid sy'n rhy denau – y rhai dan BCS 2 – gan ei bod yn annhebygol y byddant yn sicrhau'r cyflwr sy'n ofynnol er mwyn perfformio'n dda yn ystod y cylch cynhyrchu nesaf.

“Dylech ymchwilio'n ofalus pam eu bod yn denau, gan drafod â'ch milfeddyg os ydych yn pryderu ynghylch clefyd,” dywedodd.

Cyn diddyfnu, dylech sicrhau bod tir pori digonol o ansawdd da wedi cael ei neilltuo – mewn system bori cylchdro, dylai uchder y glaswellt fod yn 10-12cm a dylai 5-7cm fod yn weddill ar ôl pori.  Mewn system stocio benodedig, bydd angen i uchder y porfa ar gyfer ŵyn wedi'u diddyfnu fod yn 6-8cm.

Er mwyn lleihau'r straen ar ŵyn yn ystod y cyfnod diddyfnu, dylid eu gadael yn y cae lle y buont yn pori gyda'u mamau, fel eu bod yn gyfarwydd â'r ffynonellau dŵr a chysgod;  dylid sicrhau na fyddant yn gallu gweld na chlywed y mamogiaid.

Mae Claire Jones yn filfeddyg gyda Milfeddygon Dolgellau Cyf, ac mae'n cynghori y dylid sychu mamogiaid y tu mewn ar wellt a dŵr am 48 awr neu ar laswellt o ansawdd gwaeth er mwyn caniatáu i'r cyflenwad llaeth sychu'n naturiol i leihau'r risg o ddatblygu mastitis gymaint ag y bo modd.  Er mwyn atal problemau sy'n gysylltiedig â chlêr ar gadeiriau, dylid sicrhau bod cnuoedd yn cael eu gwaredu yn brydlon a dylid defnyddio meddyginiaeth i'w arllwys ar y cefn i ladd clêr ar ôl eu cneifio.

Bydd cyfrif nifer yr wyau mewn carthion (FEC) bob mis yn hwyluso gweithgarwch dosio strategol am llyngyr.

“Bydd monitro yn golygu y byddwch yn gwybod pryd i ddosio.  Gweithiwch gyda'ch milfeddyg i bennu pa gynnyrch i'w ddefnyddio er mwyn osgoi dewis am ymwrthedd,” dywedodd.

Dylid rhoi sylw i ddiffyg elfennau hybrin hefyd cyn diddyfnu er mwyn sicrhau bod ŵyn yn gwneud y defnydd gorau o'r maethynnau yn eu diet – mae Ms Jones yn argymell pythefnos cyn diddyfnu, ond rhaid bod ŵyn yn 20 kg neu'n drymach os yn defnyddio bolysau.

Er mwyn pennu statws elfennau hybrin, mae hi'n argymell cymryd samplau gwaed mamogiaid ac ŵyn neu fiopsïau o iau ŵyn tew neu famogiaid wedi'u difa gan bod elfennau hybrin penodol yn cael eu storio yn yr iau, sy'n golygu nad yw profi'r gwaed wastad yn rhoi darlun cywir.

Wrth i ddiddyfnu ddynodi cychwyn y cylch cynhyrchu nesaf, mae'n bwysig sicrhau bod hyn yn iawn, dywedodd Lisa Roberts, Swyddog Technegol Cig Coch Canolbarth Cymru Cyswllt Ffermio.

“Mae nifer fawr o ffermwyr yn gadael ŵyn gyda'r mamogiaid am gyfnod rhy hir, heb feddwl am y canlyniadau ar gyfer y famog a'r oen,” dywedodd.

I’r ffermwyr mynydd, Berwyn a Helen Roberts, mae cynaeafu yn pennu'r gweithgarwch diddyfnu gan bod angen adladd silwair i'w bori gan yr ŵyn.

Pan fo'r tywydd yn wael, mae hyn yn effeithio ar ddyddiadau cynaeafu, gan oedi diddyfnu.

Mae targed diddyfnu o 13-14 wythnos ar gyfer eu fferm nhw yn rhywbeth y mae modd ei gyflawni, gan mai cyfran fach o'r fferm sydd â thir pori o ansawdd uchel, dywedodd Mr Roberts, a gynhaliodd un o ddigwyddiadau Cyswllt Ffermio.

Mae'r fferm – Dolobran yn Ninas Mawddwy – yn cynnwys 93 hectar o ucheldir, 28 hectar o dir pori garw ac 16 hectar o dir o ansawdd gwell.

Mae'n cynnal diadell o 300 o famogiaid Cymreig, croesfrid a Romney.

“Byddai'n well i'r incwm a'r llif arian pe bai modd i ni ddiddyfnu yn gynharach, ond nid yw ein tir yn caniatáu hynny, rhaid i chi weithio gyda'r hyn sydd gennych,” dywedodd Mr Roberts.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.