Mae gwefan newydd wedi cael ei chreu i helpu plant i ddysgu am y modd y mae rheoli’r ffordd y mae gwartheg, defaid a cheffylau yn pori yn chwarae rôl allweddol o ran diogelu bioamrywiaeth yn ein cefn gwlad.

Mae pori cadwraeth yn gymorth i gadw unrhyw blanhigion ymledol ac ymosodol dan reolaeth, ac yn creu cynefinoedd sy'n gymorth i bryfaid peillio, adar sy’n nythu ar y tir, gloÿnnod byw a rhywogaethau eraill i ffynnu.

Mae gwefan newydd 'Y Bugail Digidol', a ddatblygwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac a ariennir gan grantiau Ewropeaidd, yn llawn cynlluniau gwersi ac adnoddau y gall ysgolion eu defnyddio i addysgu disgyblion, o’r blynyddoedd cynnar i’r arddegau, am bwysigrwydd pori cadwraeth.

Mae'r wefan hefyd yn egluro sut y dylai pobl ymddwyn yn fwy cyfrifol o amgylch da byw.

Meddai’r Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg ac Adfywio, "Pan fyddwch chi allan yn yr ardal leol, yn ymweld â gwarchodfeydd natur neu fannau gwyrdd eraill, efallai y dewch ar draws da byw yn pori, heb sylweddoli pwysigrwydd y rheswm pam y maent yno. "Mae dirywiad ecosystemau yn un o'r heriau mwyaf yr ydym yn eu hwynebu yn y byd heddiw. Mae pori cadwraeth dan reolaeth yn hanfodol i wrthdroi'r dirywiad hwnnw, ac felly rwyf yn falch o weld yr adnoddau ar-lein newydd hyn yn dod ar gael. Maen nhw’n addas i athrawon eu defnyddio o'r cyfnod sylfaen hyd at gyfnod allweddol pump.

"Rwyf yn siŵr y bydd athrawon yn ei gael yn bwnc diddorol i’w astudio gyda phlant iau, a gall disgyblion hŷn archwilio bioleg ecosystemau mewn mwy o ddyfnder. "Hoffwn hefyd i’r holl drigolion wybod bod yna nifer o reolau i'w dilyn o gwmpas yr anifeiliaid hyn er mwyn gwneud pori cadwraeth yn bosibl ar safleoedd fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Yn gyntaf, os gwelwch yn dda, cadwch gŵn ar dennyn a glanhau unrhyw faw ci ar eu hôl. Hefyd, os gwelwch yn dda, peidiwch â gadael sbwriel o gwmpas gan y gallai hwnnw gael ei fwyta gan yr anifeiliaid, neu gallai’r deunydd pacio achosi niwed iddynt.

"Mae'n wirioneddol bwysig hefyd peidio â chyffwrdd â’r da byw na’u bwydo, na chynnau tanau gerllaw. Dylid parchu ffensys ar y terfynau a pheidiwch â reidio beiciau modur na beiciau pedair olwyn yn agos i’r anifeiliaid. os gwelwch yn dda. "Mae ar anifeiliaid a phlanhigion angen anifeiliaid a phlanhigion eraill i’w helpu i oroesi a ffynnu. Mae arnom ninnau eu hangen hefyd, ac felly edrychwch ar ôl ein cefn gwlad, os gwelwch yn dda, er mwyn cenedlaethau'r dyfodol.”

Gellir gweld gwefan 'Y Bugail Digidol' yn www.bridgendreach.org.uk/digital-shepherd.

Datblygwyd y prosiect gan Dîm Datblygu Gwledig Reach Pen-y-bont y Cyngor mewn partneriaeth â Meddwl, Dysgu, Herio!. Mae'r prosiect wedi derbyn £13,000 o arian drwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae yna 21 o wardiau gwledig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n gymwys ar gyfer cyllid datblygu gwledig. Os oes gennych chi syniadau ar gyfer eich cymuned wledig, yr hoffech chi eu datblygu, ewch i www.bridgendreach.org.uk neu anfonwch neges i reach@bridgend.gov.uk am wybodaeth bellach.