The Ranch

The Ranch - Photo by South Wales Argus

Yng nghlydwch bryniau cawraidd Pantygasseg, mae Fferm Goetir y chwiorydd mewn llecyn tawel, heddychlon. Nid oes unrhyw un yn gwybod hynny mwy na Kyle Mervin-Hayes, 14, sy'n brwydro â dicter a phryder pan yn yr ysgol.

Mae Mr Mervin-Hayes, o Chapel Road Pont-y-pŵl, yn teimlo ei fod “mewn byd gwahanol” wrth iddo droi at ei ddyletswyddau gydag unrhyw rhai o'r 23 o geffylau ar y fferm.

“Mae’n fy nhawelu pan rydw i’n bondio gyda’r holl geffylau - mae’n wych,” meddai.

Mae marchogaeth therapiwtig yn cynnwys creu perthynas rhwng y ceffyl a'r hyfforddwr. Mae sesiynau wedi'u cynllunio i greu lle diogel a chyffyrddus fel y gellir diwallu anghenion yr unigolyn.

“Rydym yn hyfforddi, neidio, gwneud ffigurau 8, a mynd o amgylch mewn cylchoedd,” eglura Mr Mervin-Hayes.

Er y gallai cyfathrebu a meithrin cysylltiadau â cheffylau swnio'n ffansïol, dywed Mrs Owen ei fod yn cael effaith drawsnewidiol.

I bobl ag awtistiaeth neu syndrom Down’s, mae effaith cyfathrebu “heb-eiriau” trwy “arwain” a “mwytho'r” ceffylau yn enfawr, meddai.

Ychwanegodd: “Rydyn ni wedi cael ychydig o bobl ifanc eraill a oedd ar fin dilyn llwybr tywyll ac fe wnaeth droi eu bywydau o gwmpas o ddifri.”

Cyfaddefodd Mrs Owen y gall delio â disgyblion ac oedolion sy’n agored i niwed fod yn straen ar yr emosiwn ar adegau er ei fod yn hynod o werth chweil”.

“Weithiau rydych chi'n teimlo eich bod chi wedi amsugno cymaint o broblemau pobl,” meddai.

Y gwrthgyffur wrth gwrs yw “marchogaeth ar draws y mynyddoedd”.

Mae awdurdodau lleol yn atgyfeirio disgyblion at Gwmni Buddiant Cymunedol Horseland, y grŵp sy'n cael ei redeg gan y chwiorydd.

Yn ddiweddar, fe wnaeth y grŵp elwa o grant o £138, 436 i ariannu caban pren ac arena farchogaeth newydd, i hwyluso mwy o sesiynau a chyrraedd mwy o bobl.

Ariannwyd y grant o Gronfa Datblygu Cymunedol Gwledig, rhan o Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Lisa a Cathy yn gyn-athrawon sydd wedi gweithio yn Nhorfaen a Fforest y Ddena a chanddynt brofiad o helpu plant ag anghenion arbennig. Ar ôl sefydlu meithrinfa ac yna teimlo effaith gostyngiad yn y gyfradd genedigaethau, roedd gan y ddwy benderfyniad i'w wneud.

“Roedden ni’n wynebu penderfyniad, un ai i barhau â'r feithrinfa a gadael i'r staff fynd a'i rhedeg ein hunain, ond roedden ni eisiau bod yma - roedden ni eisoes yn berchen ar y fferm,” meddai Mrs Owen.

“Roedden ni wedi darllen digon am y math hwn o therapi ac fe aethom ati i gwblhau cyrsiau ac ennill cymwysterau. Yna fe wnaethom ei addasu i fod yn fwy seiliedig ar addysg."

“Mae wedi bod yn hynod o boblogaidd a llwyddiannus yn nhermau'r hyn y mae wedi ei olygu i bobl.”

Os hoffech ddysgu mwy am Horseland CIC:

Cysylltwch â Lisa neu Cathy ar 07796414566
E-bost: cathy.lisa@horselandcic.com