Mae maeth yn effeithio ar berfformiad y ddiadell yn yr hirdymor – o fewnblaniad yr embryo drwy gydol eu hoes. Mae nifer o amcanion yn ymwneud â maeth y famog sy’n effeithio ar gynhyrchiant a phroffidioldeb y ddiadell yn y pen draw, megis sicrhau’r cyfraddau beichiogi gorau posibl a gwella goroesiad yr embryonau, yn ogystal â chynyddu niferoedd ŵyn a gwella cyfraddau goroesiad ŵyn.
Os hoffech chi ddatblygu mwy o wybodaeth ac ehangu eich dealltwriaeth am y pwnc hwn, cwblhewch ffurflen gais erbyn 12pm 29 Gorffennaf 2019 am gyfle i fynychu gweithdy Meistr ar Faeth Defaid. Gallwch wneud hyn drwy fynd i wefan Cyswllt Ffermio: www.llyw.cymru/cyswlltffermio
Trwy fynychu’r gweithdy hwn, byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o fanteision gwella maeth y famog feichiog. Bydd y gweithdy’n trafod sut i: wella cyfraddau beichiogi a goroesiad embryonau; cynhyrchu ŵyn cryf a hyfyw; sicrhau colostrwm o ansawdd a sicrhau’r gyfradd twf gorau posibl ar gyfer ŵyn. Bydd y gweithdy hefyd yn trafod sut i lunio dognau porthi i fodloni gofynion y famog ar wahanol gyfnodau yn ystod beichiogrwydd / llaethiad; edrych ar opsiynau porthi cost effeithiol ac agweddau biolegol sylfaenol y rwmen er mwyn gwella cymeriant bwyd.
Bydd y gweithdai’n cymryd lle yn y lleoliadau isod ar y dyddiadau canlynol:
14/08/19 | Meistr ar Faeth |
Marchnad Da Byw Y Trallwng SY21 8SR |
15/08/19 | Meistr ar Faeth | Coleg Glynllifon, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DU |
Noder, mae’n rhaid cwblhau’r ffurflen gais er mwyn mynychu.
Am ragor o fanylion ynglŷn â’r gweithdy Meistr ar Faeth ym Marchnad Da Byw Y Trallwng, cysylltwch â Lisa Roberts: 07399 849 148 / lisa.roberts@menterabusnes.co.uk
Am ragor o fanylion ynglŷn â’r gweithdy Meistr ar Faeth yng Ngholeg Glynllifon, cysylltwch â Gwion Parry: 07960 261 226 / gwion.parry@menterabusnes.co.uk
Neu ewch i wefan Cyswllt Ffermio: www.llyw.cymru/cyswlltffermio
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.