Mae'r prosiect cydweithredol hwn yn ceisio gwella Comin Gelligaer a Merthyr. Mae ei aelodaeth yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw, yr Heddlu, Cynghorau Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chaerffili, Cymdeithas Cominwyr Gelligaer a Merthyr, trigolion a grwpiau diddordeb penodol fel cerddwyr, beicwyr a Chlwb Gleidio a Pharagleidio De Ddwyrain Cymru. Mae gan y grŵp gynrychiolaeth gymunedol gref i gyflawni camau a gynlluniwyd i adfer tirwedd y Comin a chreu ecosystemau gwydn ynddo drwy fabwysiadu dull Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Yn ogystal, mae'r prosiect yn ceisio mynd i'r afael â nifer o ffactorau cymdeithasol yn enwedig ymddygiad gwrthgymdeithasol fel cerbydau anghyfreithlon oddi ar y ffordd, tipio anghyfreithlon a sbwriel ar ochr y ffordd yn ogystal â phori anghyfreithlon a rheoli llai o dir.
Dewch i ganfod rhagor am Gomin Gelligaer a Merthyr:
- Archaeoleg, hanes a threftadaeth ddiddorol;
- Mannau arbennig ar gyfer natur;
- Sut mae’r comin yn cael ei reoli;
- Yr heriau y mae rheolwyr tir yn eu hwynebu;
- Y cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Pam y dylech ddod i’r gweithdy? Mae’r gweithdy AM DDIM. Mae dewis o ddyddiadau a lleoliadau ac mae cinio bwyd bys a bawd wedi ei gynnwys. Bydd amrywiaeth o siaradwyr diddorol.
Ar gyfer pwy mae’r gweithdy? Pobl sydd yn byw gerllaw Comin Gelligaer a Merthyr. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol, dim ond brwdfrydedd am y Comin sydd ar stepen eich drws!
Ble fydd y gweithdy yn cael ei gynnal? Bydd y gweithdy rhwng 9.30 a 3.30 p.m. Dewiswch un o’r canlynol:
- Dydd Sadwrn 25 Medi – Canolfan Rock UK Summit Centre, Trelewis
- Dydd Mercher 29 Medi – Canolfan Gymunedol Fochriw*
- Dydd Mawrth 5 Hydref - Canolfan Rock UK Summit Centre, Trelewis
Beth fydd yn digwydd ar y dydd? Yn y bore, bydd cyfranogwyr yn dysgu rhagor am hanes a natur y Comin yn ogystal â’r modd y mae’n cael ei reoli. Yn y prynhawn, byddwn yn mynd am daith gerdded fer ar y Comin er mwyn gweld yr heriau y mae rheolwyr y Comin yn eu hwynebu a byddwn yn datgelu rhai o gyfrinachau gorau’r Comin!
Diddordeb? Cofrestrwch heddiw! Y cyntaf i’r felin. Am ragor o wybodaeth a/neu i archebu’ch lle, e-bostiwch drefnydd y gweithdy, Gareth Kiddie – gareth@gka.org.uk neu ffoniwch Gareth ar (07984) 127811.
Noddir y digwyddiad gan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy a ariennir gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.
Fideo Comin Gelligaer a Merthyr: