Mhontarfynach

Mae contract wedi ei osod i gwmni lleol Tregaron Trading Services (TTS) i adeiladu maes parcio newydd i Reilffordd Cwm Rheidol ym Mhontarfynach a fydd yn dechrau ym mis Gorffennaf.

Mi fydd y maes parcio newydd yn cyniatau i’r maes parcio presennol gael ei agor lan fel ardal wedi ei bedestrianeiddio i ymwelwyr, yn ogystal a maes parcio bysiau a fydd yn ddefnyddiol i ddigwyddiadau cymunedol yn y neuadd gymunedol newydd.

Mae’r brosiect wedi ei ariannu drwy gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygiad Gwledig 2014 - 2020, sydd yn cael ei ariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd am Ddatblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru (EAFRD).

Dywedodd Llyr ap Iolo, Rheolwr Cyffredinol Rheilffordd Cwm Rheidol fod:

“y maes parcio presennol yn annigonol ar gyfer y nifer o dwristiaid sydd nawr yn dod i’r reilffordd a Phontarfynach. Mi fydd gan y maes parcio newydd le ar gyfer 78 cerbyd yn cynnwys parcio annabl, llwybr hygyrch i’r orsaf a 4 man parcio bws a fydd yn gadael yr ardal o amgylch yr orsaf a’r caffi i gerddwyr yn unig a fydd yn gwella diogelwch ac awyrgylch yr orsaf. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr arian rydym wedi derbyn oddi wrth EAFRD, ac edrychwn ymlaen at groesawu mwy o ymwelwyr i’r ardal”.

 Dywedodd y cyngorydd Rhodri Davies

“gyda Rheilffordd Cwm Rheidol yn darparu maes parcio newydd mi fydd yn hwb i ymwelwyr ac felly’r economi lleol. Mae’r palmant newydd sy’n cael ei adeiladu gan y cyngor hefyd yn gwella hygyrchedd a diogelwch cerddwyr i mewn i’r pentref i drigolion lleol ac ymwelwyr”.