Sixth-formers seek out expert knowledge in HCC day-school

Daeth myfyrwyr 16-18 oed o ddwy ysgol yng nghanolbarth Cymru i bencadlys y corff cig coch, Hybu Cig Cymru (HCC), yn Aberystwyth i drafod y datblygiadau diweddaraf mewn nifer o bynciau sy'n allweddol i ddyfodol ffermio yng Nghymru.

Bu myfyrwyr BTEC mewn Amaethyddiaeth o Ysgol Penweddig Aberystwyth ac Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn clywed arbenigwyr HCC yn ymdrin â nifer o'r pynciau allweddol yn eu cwrs, gan gynnwys bridio a geneteg defaid, rheoli tir glas, ac iechyd anifeiliaid

Yn ogystal, roedd modd i’r myfyrwyr gymryd rhan mewn trafodaeth ryngweithiol ar sut y gallai gofynion newidiol y defnyddiwr a phatrymau masnach y byd ddylanwadu ar ddyfodol y sector defaid a chig eidion yng Nghymru.

Yn ôl Rheolwr Cyfathrebu HCC, Owen Roberts, roedd y digwyddiad yn gyfle i ymgysylltu â phobl ifanc a fyddai'n asgwrn cefn i'r diwydiant cig coch yn y dyfodol.

“Mae mwy a mwy o ysgolion erbyn hyn yn cynnig y cwrs BTEC mewn Amaethyddiaeth ochr yn ochr â Lefel A,” meddai. “Felly, mae HCC yn edrych ar ffyrdd y gallwn helpu ysgolion i gyflwyno'r cyrsiau hyn ac ymgysylltu ag arweinwyr ffermio’r dyfodol yng Nghymru.

Ychwanegodd: “Mae ysgolion eisoes yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael ar ein gwefan  Hybu Cig Cymru. Roedd yn wych trafod gyda myfyrwyr chweched dosbarth gwybodus a llawn diddordeb sut i gynhyrchu'n effeithiol ac effeithlon yr hyn sydd ei eisiau ar ddefnyddwyr y dyddiau hyn. Roedd y myfyrwyr yn dod o ardaloedd cyfagos, ond rydym yn awyddus i gynnal y math hwn o ddigwyddiad mewn rhannau eraill o Gymru.

“Mae llawer o'r pynciau allweddol sydd ar gwricwlwm myfyrwyr - fel iechyd anifeiliaid a geneteg defaid - yn bwysig i'r gwaith y mae HCC yn ei wneud fel rhan o'n Rhaglen Datblygu Cig Coch dros gyfnod o bum mlynedd,” eglurodd Owen. “Mae'r rhaglen hon yn cael ei chefnogi gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

“Dywedodd yr athrawes Lowri Evans: “Cafodd y disgyblion, a minnau, brofiad amhrisiadwy o glywed gan arbenigwyr am y datblygiadau diweddaraf o ran cynhyrchu cig. Hefyd, rhoddodd y digwyddiad gipolwg i'r disgyblion ar bosibiliadau gyrfa amgen yn y diwydiant amaeth.”

Ar yr un diwrnod â'r sesiwn yn Aberystwyth, bu Rheolwr Marchnata HCC, Rhys Llywelyn, hefyd yn ymgysylltu â'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr, mewn sesiwn drafod a gynhaliwyd yn Nhrawsfynydd gan gangen Prysor ac Eden o Glwb y Ffermwyr Ifanc.