Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru 26 Medi 2019

Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys LD2 3SY

Digwyddiad newydd a chyffrous wedi'i anelu at ffermwyr, coedwigwyr a phobl wledig sy'n chwilio am syniadau arloesi ac arallgyfeirio i wella eu busnes ac i gyflwyno ffrydiau incwm newydd i fusnesau presennol.

Mae yna 4 maes allweddol i Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru

Arloesi - Technolegau a syniadau newydd; y syniadau a chyfleoedd diweddaraf o ran technoleg i'ch helpu chi yn eich busnes.

Arallgyfeirio - Gwybodaeth am y syniadau a chyfleoedd arallgyfeirio diweddaraf, gan gynnwys bwyd, twristiaeth, gweithgareddau awyr agored a chnydau amgen.

Da Byw - Gwneud y gorau o'ch meddiannau presennol, sut i wneud eich busnes presennol yn fwy proffidiol trwy gyflwyno technoleg newydd, a gwella effeithlonrwydd tasgau.

Cyllid a chymorth busnes – Cyngor ar sut i ddatblygu ac ariannu eich syniadau busnes, fel y gallwch adael y diwrnod gyda chynllun yn ei le.
Hoffem eich gwahodd i ymuno â ni yn Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru lle bydd prif gwmnïau yn y sector yn cael eu harddangos. Bydd gwybodaeth lawn am stondinau masnach ar gael yn fuan, ond i gofrestru eich diddordeb nawr, cysylltwch â ni ar y manylion isod.

Trefnir y digwyddiad hwn gan Cyswllt Ffermio. Bydd y stondin yn rhad ac am ddim gyda ffi archebu o £90 wedi rheoli gan CAFFC cyf.
Ariennir Cyswllt Ffermio drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ni fydd Cyswllt Ffermio yn gwneud elw o'r digwyddiad yma.

I gofrestru eich diddordeb mewn mynychu'r diwrnod gyda stondin fasnach, cysylltwch â ni ar digwyddiadaucyswlltffermio@menterabusnes.co.uk neu ffoniwch: 

Lisa Jones - 07812 190 896
Sian Mercer - 07970 298 908