Do you have an innovative idea to help the high street?

Mae dirywiad strydoedd mawr Gwynedd yn bryder i nifer o bobl, ond mae Arloesi Gwynedd Wledig yn ceisio taclo’r her hwnnw gan ddefnyddio datrysiadau creadigol!

Mae’r stryd fawr wedi bod yn ganolbwynt i gymunedau ledled Cymru, drwy greu swyddi, meithrin busnesau bach a gyrru economïau lleol a rhanbarthol. Erbyn heddiw mae’r stryd fawr yn wynebu heriau yn sgil y cynnydd mewn siopa ar lein, canolfannau siopa’ mawr ac archfarchnadoedd. Mae’r uchod wedi cael effaith negyddol ar fasnach y Stryd Fawr a hynny yn ei dro wedi cyfrannu tuag at ddirywiad yn ein canol trefi. 

Esboniodd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Datblygu’r Economi Cyngor Gwynedd:

"Erbyn heddiw mae defnyddwyr yn chwilio am ystod o brofiadau ar y stryd fawr, o siopa i hamdden i adloniant i wasanaethau iechyd; erbyn heddiw dylai’r stryd fawr fod yn cynnig profiad unigryw na all pobl fynd i unrhyw le arall i’w gael."

Mae Arloesi Gwynedd Wledig yn chwilio am 3 cymuned i gydweithio a hwy er mwyn treialu dulliau newydd ac arloesol fydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r Stryd, ac yn sgil hynny i’r ardal yn ehangach ac yn cynyddu lefel o wariant yn lleol.

Rhai syniadau y gellir ei beilota yw gosodiadau celf (art installtions), dodrefn stryd, arwyddion a gweithgareddau e.e. perfformiadau neu garnifal digidol. Dylai’r syniadau fod yn atyniad fydd yn denu ymwelwyr ac yn fodd o ddangos beth sydd gan y stryd / ardal i’w gynnig.

Gwelwyd enghraifft debyg ym Mhortiwgal lle gosodwyd ymbarelau lliwgar uwchben strydoedd fel rhan o’r ŵyl gelf AgitÁgueda. Bob mis Gorffennaf ers 2011 mae’r gosodiad celf yma wedi denu miloedd o bobl i’r ardal ar ôl i luniau o’r ymbarelau gael eu rhannu ar y we. Mae’r syniad yma wedi bod yn boblogaidd iawn, gan gael ei ail greu ar stryd yn Lerpwl yn ddiweddar. Mae’n bosib meddwl am ddefnydd gwahanol i ddodrefn stryd hefyd, e.e. yn Llundain mae nifer o “smart benches”, sy’n cael eu pweru gan egni solar, wedi eu gosod o amgylch y ddinas. Yn ogystal â chynnig lle i berson eistedd mae’n caniatáu i chi bweru eich ffon symudol, mae’n cynnig WiFi am ddim ac mae’n bosib gwneud rhodd i elusen drwy daliad di-gyffwrdd arno.

Dywedodd Carwyn Ap Myrddin Swyddog Prosiect Arloesi Gwynedd Wledig:

"Bydd disgwyl i’r ardaloedd ddatblygu prosiectau arloesol a chyffrous fydd yn amlygu'r hyn sydd yn gwneud eu hardal yn unigryw. Mae angen cysylltiadau a chefnogaeth / ymrwymiad y busnesau lleol a bydd angen gwirfoddolwyr yn barod i ymrwymo amser ar gyfer cydlynu a gweithredu’r cynllun."

Am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho’r ffurflen gais ewch i Prosiect Strydoedd Unigryw – Galwad Agored neu cysylltwch â Carwyn drwy e-bost - carwyn@mentermon.com neu ffoniwch 01766 515 946.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.