Gyda dyddiau tan y Sioe Fawr yn Llanelwedd, bydd cyfle i aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru sydd a’u bryd ar ddatlygu eu gyrfaoedd fel cogyddion, baratoi gwledd arbennig o gynnyrch lleol ar y thema ‘Bwyd Stryd’.

Drwy bartneriaeth arbennig rhwng prosiect Agora, Agrisgôp, Menter Moch Cymru a Chlybiau Ffermwyr Ieuanc Cymru, bydd yr aelodau dewisiedig yn cael cyfle i ddangos eu sgiliau coginio wrth iddynt ddarparu seigiau arbennig yn gysylltedig a’u fferm deuluol.

Bydd y gornel ‘Bwyd Stryd’ wedi’i leoli ger Canolfan Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, nepell o’r cylch gwartheg ar faes y Sioe, a gwelwn y pedwar yn paratoi seigiau amrywiol.

Mae Agora, Agrisgôp, Menter Moch Cymru a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi dewis y goreuon sef:

Luke Watts, Elin Haf Jones a Ben Williams. Mae bywgraffiadau llawn o’r tri isod yn yr adran Nodiadau i’r Golygydd

Cafodd y tri eu mentora’n llawn drwy edrych ar eu costau, hylendid bwyd a sgiliau gwerthu.

Dywedodd Nia Lloyd, Cyfarwyddwr Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru: ‘Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth newydd hon, ai fod wedi ein galluogi i roi cyfle arbennig i’n haelodau sydd a’u bryd ar ddatblygu eu gyrfaoedd.  Rydym yn ymfalchïo ein bod wedi gallu cynnig profiadau amrywiol iddynt dros y blynyddoedd, a braf bydd gweld yn dwyn ffrwyth yn ystod wythnos y Sioe’.

Meddai Einir Haf Davies, Rheolwr Datblygu a Mentora - Cyswllt Ffermio ‘Nod Agrisgôp yw grymuso unigolion i ddatblygu syniadau, goresgyn heriau a meithrin sgiliau newydd. Mae’r cyfle hwn i dreialu menter newydd gyda ffenestr siop mor enfawr â Sioe Frenhinol Cymru yn un o’r cyfleoedd mwyaf cyffrous i Agrisgôp ei gynnig i bobl ifanc erioed ac mae’n bleser cael cydweithio gyda’r partneriaid eraill.’

Mae'r bartneriaeth hefyd yn cynnwys Menter Moch Cymru (prosiect wedi ariannu gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 yn cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.), ac mae rheolwr y prosiect, Melanie Cargill yn dweud:

‘Mae Menter Moch Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio gydag Agora a'r prosiectau eraill ar y cyfle cyffrous hwn sy'n cefnogi busnesau newydd i arddangos eu cynnyrch a rhoi llwyfan i borc o Gymru mewn digwyddiad mor bwysig. Mae’r prosiect yn gweithio gyda phob rhan o'r diwydiant i gefnogi a datblygu'r sector porc o Gymru.’

Ychwanegodd: ‘Gyda phorc yn rhan o'r fenter newydd hon, rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn codi proffil porc o Gymru, ac y bydd yn rhoi cyfle i'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr moch i weld cyfleoedd ychwanegol mewn marchnadoedd newydd’.

Mae Bwyd Stryd yn sicr wedi dal dychymyg nifer dros y blynyddoedd, ac wedi ychwanegu tŵf mewn gwyliau bwyd a digwyddiadau marchnadoedd fferm. 

Nod prosiect AGORA yw annog ffermwyr a chynhyrchwyr i fentro, cydweithio a darganfod cyfloedd ar gyfer busnesau newydd a bach sy’n ymwneud â chynnyrch yn seiliedig ar y tir. 

Meddai Rolant Tomos, Rheolwr Prosiect Agora: ‘Rydym yn falch iawn o arwain y bartneriaeth yma yn y Sioe Fawr eleni. Un o brif amcanion prosiect Agora oedd rhoi cyfleoedd i fusnesau newydd, ac wrth i’r prosiect ddirwyn i ben eleni, braf ydy gweld dau o’n cleientiaid yn cael y cyfle gwych yma i arddangos a choginio eu cynnyrch.’

Ychwanegodd: ‘Rydym yn edrych ymlaen at y bwrlwm bydd yn sicr o gwmpas y gornel arbennig yma, a dim ond un neges sydd – dewch draw i brofi a gweld drostoch eich hun.’