Fly tipping

Mae ymgyrch i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon sy’n bla ar Gomin hanesyddol a phrydferth Gelligaer a Merthyr Tudful yn cael ei dwysau gan dîm o asiantaethau partner. Ymhlith rhai o’r gweithgareddau a gynllunnir mae rhagor o fôn braich, digwyddiadau stopio a gwirio cerbydau, cynyddu’r wyliadwriaeth ac ymwybyddiaeth addysgiadol. 

Mae prosiect Cydweithredol y Comin: “Comin Cydweithredol”;  sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Cominwyr Gelligaer a Merthyr yn cydweithredu gyda Taclo Tipio Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chynghorau Bwrdeistref Sirol Caerffili a Merthyr Tudful, gyda’r nod o ddilyn ymagwedd broactif wrth ddelio â phroblem fawr y tipio anghyfreithlon ar y comin. 

Mae’n drist nodi bod y comin yn dioddef  llawer iawn o dipio anghyfreithlon sy’n achosi difrod sylweddol i’r tirlun a bygythiad o berygl gwirioneddol i anifeiliaid pori, bywyd gwyllt, defnyddwyr hamdden a ffermwyr. Mae’r tipio anghyfreithlon hefyd yn effeithio ar yr ecoleg ehangach fel difrodi cyrsiau dŵr.

“Mae’r Comin yn dirlun sy’n gweithio ac sy’n fyw ac mae’n hanfodol ar gyfer cefnogi’r cymunedau amaethyddol a gwledig lleol. Mae’n gartref i ddigonedd o fywyd gwyllt, gan gynnwys y Barcud eiconig a rhywogaethau dan fygythiad fel y gornchwiglen a’r gylfinir,” dywedodd Huw Williams, Cadeirydd Cymdeithas Cominwyr Gelligaer a Merthyr." 
 
“Yn anffodus, mae lleiafrif o bobl yn ymddwyn yn anghymdeithasol ar raddfa fawr yn enwedig wrth dipio’n anghyfreithlon ac mae hynny’n cael effaith niweidiol." 

Er y bydd gweithredu gorfodol yn erbyn tipwyr anghyfreithlon yn elfen allweddol o ymagwedd y bartneriaeth hon, bydd addysg a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth ymhlith y gymuned yn agweddau pwysig hefyd.

Er mwyn mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ar y comin, mae angen i ni gefnogi holl aelodau’r cyhoedd yn yr ardaloedd lleol ac amgylchynol i reoli gwastraff y cartref yn gyfrifol, am fod 79% o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon yn cynnwys gwastraff a ddaw o gartrefi pobl. 

Mae addysgu cymunedau lleol am ddyletswydd gofal o ran eu gwastraff a sicrhau bod aelodau’r cyhoedd a busnesau yn defnyddio cludwr gwastraff rhestredig, yn allweddol wrth fynd i’r afael â’r hyn sy’n difetha ein hamgylchedd. 

Bydd swyddogion arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru’n ymuno â’r bartneriaeth. Fel rhan o’r prosiect, bydd nifer o ddigwyddiadau stopio a gwirio yn cael eu trefnu a bydd y prosiect yn galluogi archwilio rhagor o ddigwyddiadau o dipio anghyfreithlon, gyda’r golwg o erlyn y troseddwyr hynny sy’n parhau i dipio’n anghyfreithlon ar hyd a lled y comin.

Saif y bartneriaeth hon o fewn prosiect fwy o faint Comin Cydweithredol. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar dair prif thema: mynd i’r afael â throsedd tirlun, adfer a chreu cynefin a gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd. Bydd ymgysylltu cymunedol ac ysgolion yn elfen allweddol o’r prosiect, gyda chyfleoedd i’r cyhoedd ac ysgolion lleol ddilyn rôl broactif o ran cynnal a chadw’r comin. Caiff sesiynau gwirfoddoli rheolaidd eu cynnal ynghyd â sesiynau hyfforddiant crefftau traddodiadol cefn gwlad. Bydd ysgolion yn cael eu hannog i archwilio a dysgu am y comin, ei hanes a’i bwysigrwydd yn yr ardal leol. 

Bydd Cymdeithas Cominwyr Gelligaer a Merthyr yn darparu’r prosiect mewn partneriaeth â Phartneriaeth Comin Gelligaer a Merthyr. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys tirfeddianwyr, cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, swyddogion Heddlu Gwent a De Cymru, aelodau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Cadw Cymru’n Daclus, Cadw, Llywodraeth Cymru, Taclo Tipio Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Menter Merthyr, Parc Rhanbarthol y Cymoedd a rhanddeiliaid allweddol eraill. 

Dywedodd Ceidwad y Prosiect, Mark Ward “Mae gan y Comin dirlun ysblennydd - dyma ysgyfaint gwyrdd hanfodol y cymoedd. Mae’r 3,000 hectar yr ehangdir mawr hwn yn chwarae ei ran yn y cylched dŵr a charbon, mae’n helpu i arafu llif dŵr ffo ac mae ganddo ran i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.”

“Mae’r Comin yn golygu gymaint i gynifer o bobl. I rai mae’n ardal bori i anifeiliaid, i eraill, mae’n wagle agored ar gyfer iechyd a llesiant. Mae rhai yn mwynhau’r fioamrywiaeth gyfoethog, tra bo eraill yn mwyhau’r daith olygfaol ar eu ffordd i’r gwaith.”

“Mae parchu’r Comin, ei drysori a’i reoli mewn modd cynaliadwy i’w drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol yn gyfrifoldeb ar bawb, a’n gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn helpu pobl i wireddu hynny.” 

Cafodd y prosiect hwn ei wneud yn bosibl drwy sicrhau grant oddi wrth Gronfa Amaethyddol Ewrop ar Gyfer Datblygu Gwledig ar gyfer prosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy a ariennir drwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.