Gerallt service vending machine

Dros y chwech mis diwethaf mae ein peiriant fendio cynnyrch lleol wedi bod yn darparu cynnyrch lleol I ymwelwyr maes gwersylla Nant y Big ym Mhen Llyn. Gyda cynnyrch blasus fel bacwn gan Oinc Oink, llefrith gan Llaethdy Llyn a sudd afal gan Pant Du does dim o’r danteithion wedi teithio’n bell! Roedd cacennau fel bara brith a cacennau cri yn boblogaidd iawn ac hefyd llefrith a wyau.

Pwrpas y prosiect yma oedd treialu model manwerthu uniongyrchol gan roi cyfle I gynhyrchwyr werthu yn uniongyrchol i gwsmeriaid mewn modd arloesol, cost-effeithlon a dibynadwy. Gosodwyd y peiriant yn y maes gwersylla yn gyntaf gan nad oedd siop cyfagos ac felly roedd ymwelwyr yn dod a bwyd gyda nhw yn aml iawn. Roedd hefyd yn rhoi cyfle i’r ymwelwyr flasu cynnyrch lleol a mynd a danteithion blasus Cymreig adra gyda nhw fel anrhegion. 

Dros y chwech mis nesaf bydd y peiriant yn ymgartrefu mewn cymuned. Rydym yn awyddus iawn I bobl leol gael budd ohonno hefyd, ac mewn ardal lle does dim siop. Esboniodd Rhys Gwilym, Uwch Swyddog Prosiect AGW “Mae nifer o bentrefi yng Ngwynedd wedi colli eu siop fach leol, gan arwain at rai yn gorfod trafeilio yn bell I’w siopau agosaf. Drwy leoli’r peiriant fendio mewn cymuned bydd ganddynt fynediad cyfleus tuag at gynnyrch fel llefrith, wyau, bacwn a selsig, ac I gyd yn gynnyrch lleol.”

Hoffech chi gael y peiriant fendio cynnyrch lleol yn eich cymuned chi, neu ydych chi’n gwybod am leoliad perffaith iddo? Cysylltwch gyda Rhys drwy rhys@mentermon.com neu 01766 514 057

Mae mwy a mwy o bwyslais ar yr angen I siopa’n lleol y dyddiau yma, ac mae’r prosiect yma nid yn unig yn rhoi y cyfle I ni wneud hynny, ond o bosib yn ei wneud yn haws ac yn fwy hwylus na mynd I’r archfarchnad hyd yn oed! 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.