Yr Egin

Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi penodi Catrin Watkins fel interniaeth marchnata newydd rhwydwaith Sir Gâr Greadigol.

Yn flynyddol, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig internaethau i fyfyrwyr sy’n astudio yn y Brifysgol i enyn profiad gwaith.  Bydd Catrin yn ymuno â’r tim fel Cynorthwyydd Marchnata, wedi iddi ennill yr interniaeth gwerth £1000, sy’n rhoi’r cyfle iddi gynrothwyo gyda’r gwaith o farchnata a datblygu’r prosiect cyffrous hwn.  

Mae Catrin Watkins yn fyfyrwraig Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod Dewi Sant ond mae hefyd yn rhedeg busnes bach yn gwerthu clustlysau wedi’u creu o law.  Wrth edrych ymlaen at yr her ddiweddaraf, dywedodd Catrin:

“Fe wnes i gais am y swydd hon er mwyn ennill profiad yn y byd marchnata ac i ddatblygu fy niddordeb mewn creu a chyhoeddi cynnwys creadigol. Yn fy marn i, mae'n bwysig i fyfyrwyr achub ar bob cyfle a roddir iddynt i ehangu eu dealltwriaeth a'u profiadau yn barod ar gyfer y byd gwaith. Dwi’n edrych ymlaen at fod yn rhan o dîm brwdfrydig a dysgu sgiliau newydd.”

Bu Bethan Wyn, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn rhan o’r broses recriwtio.  Nododd:

“Braf iawn yw medru cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant i ddatblygu sgiliau a chysylltiadau newydd yn y byd gwaith mewn maes creadigol, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn ddymuno pob dymuniad da i Catrin yn ei rôl newydd.”

Rhwydwaith proffesiynol newydd sy’n dod â gweithwyr ac ymarferwyr creadigol a digidol y rhanbarth at ei gilydd yw Sir Gâr Greadigol.  Mae’r sesiynau a gynhelir trwy’r rhwydwaith yn anelu at annog a datblygu ymarfer creadigol a digidol yng ngorllewin Cymru. Mae’r rhwydwaith yn rhan o brosiect ymgysylltu ehangach sydd ynghlwm â Chanolfan S4C Yr Egin ac yn cael ei gyllido gan Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin a ‘Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020’, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

Trwy’r interniaeth hon bydd Catrin yn cael y cyfle i ennill profiadau newydd yn y maes celfyddydau, marchnata, cyfryngau a digwyddiadau yn ogystal â meithrin cysylltiadau newydd o fewn nifer o feysydd a sectorau.  

Fel rhan o’r rôl, bydd Catrin Watkins yn gweithio’n agos gyda Llinos Jones, Swyddog Ymgysylltu’r Egin, er mwyn creu a datblygu syniadau creadigol a dulliau newydd o farchnata’r prosiect.  Ychwanegodd Llinos Jones:

“Rydym yn hynod o falch i gael cynnig y cyfle hwn i Catrin sy’n rhoi cyfle gwych iddi ddatblygu mewn maes creadigol sydd o ddiddordeb mawr iddi. Bydd yr interniaeth hefyd yn rhoi’r cyfle i Catrin ddatblygu’r sgiliau gwerthfawr hynny sydd eu hangen ar gyfer byd gwaith yn y dyfodol." 

Law yn llaw a’r cwrs y mae yn ei astudio, bydd Catrin yn datblygu sgiliau marchnata gwerthfawr, ac yn creu a chynnig syniadau newydd i brosiect Sir Gâr Greadigol. 

Mae cael person ifanc yn rhan o’r Tîm yn dod a chwa o awyr iach ac edrychaf ymlaen yn arw iawn i gydweithio a Catrin. Edrychaf ymlaen at fod ar daith yrfaol gyffrous efo Catrin wrth i'r ddwy ohonom ddysgu a thyfu efo'n gilydd.”

Bydd sesiynau Sir Gâr Greadigol 2021 yn cael eu cyhoeddi ar ein sianeli cyfyngau cymdeithasol ac ar wefan Canolfan S4C Yr Egin yn ystod yr wythnosau nesaf.