Logo Biosffer

Mae Menter a Busnes wedi eu comisiynu i weithio gyda phobl ifanc i arddangos Biosffer Dyfi a’i gyfleoedd entrepreneuraidd trwy ymgyrch ffilm a chyfryngau cymdeithasol.

Mae dalgylch yr afon Ddyfi wedi ei ddynodi yn ardal Biosffer gan UNESCO ers dros 10 mlynedd. Yn un o saith ardal biosffer UNESCO yn y Deyrnas Unedig, a’r unig un yng Nghymru, mae’n cynnig cyfleoedd dirifedi i bobl, cymunedau a busnesau'r rhanbarth.

Bydd prosiect Ti bia’r Biosffer yn adnabod y cyfleoedd hynny, a manteisio arnynt ar ffurf cyfres o ffilmiau byr sy’n dangos mentergarwch ar ei orau. 

Pobl ifanc yr ardal fydd yn cynhyrchu’r ffilmiau, felly mae Menter a Busnes yn chwilio am bobl ifanc brwdfrydig a chreadigol rhwng 16 a 30 oed, sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau cyflwyno a chreu ffilmiau i ymuno â’r criw cynhyrchu. Bydd y ffilmiau yn cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’n brosiect cyffrous ac yn gyfle i’r criw ddysgu sut i ddylunio ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol effeithiol, a’i harfogi i’w defnyddio i godi proffil eu llwyfannau digidol eu hunain” 

Dywedodd Einir Davies, Menter a Busnes.

Trwy fod yn rhan o’r prosiect, bydd pobl ifanc yr ardal yn derbyn hyfforddiant cyfryngau, cynhyrchu ffilm a chyfrathrebu ac yn dysgu sut gellir gwneud y mwyaf o Biosffer Dyfi er lles eu cymunedau a’r economi leol. 

Dylid datgan diddordeb i fod yn rhan o’r criw drwy gwblhau’r ffurflen gais erbyn Dydd Gwener yr 2il o Orffennaf. Mae’r ffurflen ar gael i’w lawr lwytho o wefan Biosffer Dyfi.

Mae prosiect Ti bia’r Biosffer yn cael ei weithredu gan Menter a Busnes a’i ariannu ar sail gydweithredol gan Grwpiau Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi (Ceredigion), Arwain Powys ac Arloesi Gwynedd. 

Ariannwyd drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae hefyd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gyngor Sir Gwynedd, yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys.