Huw Jones

Mae’n bosibl bod gallu Cymru i dyfu porfa o safon uchel yn cynnig gwell amodau ar gyfer cynhyrchu llaeth defaid o’i gymharu â rhanbarthau gyda nifer fawr o ddiadelloedd godro. 

Yn 2019 aeth Huw Jones, ffermwr defaid o Ynys Môn, sy’n anelu i sefydlu ei ddiadell ei hun o ddefaid llaeth, ar daith ymchwil i Ffrainc gyda chefnogaeth Rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio. 

Ar hyn o bryd, mae gan Mr Jones 200 o ddefaid magu ond mae’n awyddus i arallgyfeirio i gynhyrchu llaeth defaid. 

Mae’r diwydiant yn gymharol gyffredin yn Ffrainc lle mae ffermwyr yn ychwanegu gwerth i’r llaeth drwy gynhyrchu caws. 

Tra yn Ffrainc, ymwelodd Mr Jones â ffermydd i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r farchnad llaeth defaid a rheolaeth mamogiaid o fewn blwyddyn gynhyrchiol.  

Yno, gwelodd fod mwyafrif y ffermwyr yn godro eu diadelloedd yn y bore ac yn cynhyrchu caws weddill y dydd. 

Roedd rhai yn bwydo porfa’r godog a maglys rhuddlas i ddefaid yn ystod y cyfnod sych.  

Dysgodd hefyd:

  • Nad oes rhaid i ddefaid gael eu godro ddwywaith y dydd – unwaith y dydd yr oedd y ffermydd yr ymwelodd â nhw’n godro 
  • Bod mwyafrif y ffermwyr yn godro eu defaid am saith mis o’r flwyddyn  
  • Mae godro 50 dafad yn Ffrainc yn rhoi bywoliaeth i un person 
  • Y cynnyrch mwyaf cyffredin yw caws ac iogwrt 

“Yn fy marn i, mae hinsawdd Cymru yn gweddu’n well ar gyfer defaid godro na de Ffrainc am ein bod ni’n gallu cynhyrchu porfa o’r safon uchaf,” meddai Mr Jones, sy’n byw yn Llannerchymedd.

Ond mae’n rhybuddio bod yn rhaid i ffermwyr ddod o hyd i farchnad ar gyfer eu llaeth cyn dechrau cynhyrchu. 

Hoffai Mr Jones weld archfarchnadoedd y DU yn gwneud mwy i addysgu defnyddwyr ynglŷn â’r cynnyrch llaeth defaid y maen nhw’n eu gwerthu, yn bennaf ar ffurf iogwrt a chaws.  

Ar sail ei ymchwil, mae Mr Jones bellach yn bwriadu bwrw ymlaen â’i uchelgais. 

“Rwy’n credu bod arallgyfeirio i odro defaid yn syniad da am nad oes angen gormod o fuddsoddiad, mae’n cynhyrchu elw gros sylweddol ac mae’r farchnad ar gyfer cynnyrch llaeth defaid yn tyfu,” meddai. 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.