Helen Barnes Frances Gwillym and Clive Mills

Ymunodd ffermwyr sydd â hawliau pori ar filoedd o erwau o dir comin yng Nghanolbarth Cymru ar gyfer prosiect pwysig i glirio rhedyn, gwella mynediad i’r cyhoedd ac annog bywyd gwyllt.

Mae tair cymdeithas bori – Llanfihangel Brynpabuan, Llysdinam a Llanwrthwl – wedi dod at ei gilydd i roi cais am gyllid o’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) a weinyddir gan Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop dros Ddatblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth ariannol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau i reoli adnoddau naturiol, ac wrth wneud hynny, yn cyfrannu at les cymunedau lleol. 

Bu’r cais gan y cymdeithasau pori, a wnaed dan yr enw ‘Three Parishes’, yn llwyddiannus ar y cam Mynegi Diddordeb ac mae’n awr wedi gwneud cais am grant o £695,300. 

Roedd y prosiect tair blynedd, fydd yn cynnwys camau i ailgyflwyno gwartheg ar y comin ac ailadeiladu waliau cerrig traddodiadol, yn un o naw prosiect a fu’n llwyddiannus yn y rownd mynegi diddordeb. 

Dywedodd y ffermwr bîff a defaid Frances Gwillim, sydd â hawliau pori nad yw’n eu defnyddio ar hyn o bryd, petai’r cais yn llwyddiannus, y byddai’r manteision yn ymestyn yn llawer pellach na manteision uniongyrchol i’r porwyr fel adfer cynefinoedd bywyd gwyllt a chreu gwaith.

Bydd yn denu mwy o bobl i’r bryniau oherwydd bydd mynediad yn cael ei wella a’r traciau a’r waliau yn cael eu trwsio, a gyda’r gwelliant i’r cynefinoedd, bydd mwy o rywogaethau o adar yn nythu yno, dywedodd Mrs Gwillim, o’r Parc, Llanafan Fawr, ger Llanfair ym Muallt. Mae cynlluniau i hyfforddi pobl mewn sgiliau newydd gan gynnwys codi waliau cerrig a datblygu cynllun treialu i ymchwilio i sicrhau bod gwartheg caled yn sefydlu cynefin ar y comin i reoli’r cynefin.

Daeth ymlediad rhedyn yn broblem fawr ar y 2500 hectar o dir comin sy’n cael ei gynnwys yn y cais am arian.

Mae’n risg i iechyd defaid oherwydd bod trogod yn cuddio ynddo sy’n heintio diadelloedd, ac mae’n fygythiad i iechyd dynol hefyd trwy afiechyd Lyme.

Heblaw am y problemau iechyd, mae’n amharu ar fynediad y cyhoedd, yn tagu planhigion a nodweddion hanesyddol ac nid yw’n gynefin addas i lawer o rywogaethau o adar gwyllt sy’n byw ar y comin. Trwy reoli’r rhedyn, bydd y prosiect yn gwella’r amrywiaeth o fywyd gwyllt trwy gynnal nifer o rywogaethau gan gynnwys y cwtiad aur, y gylfinir a’r ehedydd.

Roedd y porwyr a’r gymuned ehangach am reoli’r sefyllfa cyn iddi fynd yn rhy bell; bydd y prosiect yn rhan o’r rheoli cynaliadwy a gynllunnir ar gyfer yr ardal.

Roedd Helen Barnes yn un fu’n helpu i gychwyn y prosiect fel un o’r 15 o hwyluswyr SMS Cyswllt Ffermio yng Nghymru.

Gyda’i help hi ac yn dilyn cyfarfodydd gyda phorwyr, pobl leol a rhanddeiliaid eraill, cyflwynodd grŵp ‘Three Parishes’ eu Datganiad o Ddiddordeb.

Roedd y cais yn nodi cynlluniau i ddefnyddio chwistrellu o’r awyr, cleisio a gwlychu chwyn (weed wiping) i gael gwared ar y rhedyn. Byddai gwartheg yn cael eu hail-gyflwyno i helpu i atal y rhedyn rhag dychwelyd trwy bori.

“Mae ein tir ni i gyd yn taro felly roedd yn gwneud synnwyr i ni ymgeisio fel un,” dywedodd Mrs Gwillim.

“Roeddem yn lwcus iawn o gael cefnogaeth Helen a hefyd Nick Myhill, sydd â hawliau pori nad yw’n eu defnyddio ar un comin ac a chwaraeodd ran allweddol yn y cais.”

Mae’r hawliau i bori’r comin yn cael eu cysylltu â ffermydd unigol - mae 80 o borwyr ar gomin Llanfihangel Brynpabuan, Llysdinam a Llanwrthwl er mai dim ond 15 sy’n pori’r tir mewn gwirionedd.

Bydd y prosiect yn weithredol hefyd ar bedwerydd comin, Carngafallt yn Llanwrthwl, sydd wedi ei gynnwys yn y cais.

Dywedodd Ms Barnes y bydd y Tri Phlwyf yn cael eu cynrychioli mewn diwrnod agored yn Nhalyllychau ar 24 Ebrill pan fydd cyfle i ddysgu rhagor am wneud cais am gefnogaeth SMS.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10.00am yn y Plough, Rhosmaen, Llandeilo. 

“Am ragor o wybodaeth am y diwrnod agored, ewch i https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/diwrnod-agored-cyn… neu cysylltwch â Cyswllt Ffermio ar 08456 000813,’’ dywedodd Ms Barnes.

Bydd y 5ed ffenestr i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer y cynllun SMS yn agor rhwng 21 Mai a 6 Awst. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda hwylusydd Cyswllt Ffermio fynd i wefan Cyswllt Ffermio am ragor o wybodaeth. 

Ariennir Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.