Diogelu Cymru

O dipyn i beth, bydd practisau deintyddiaeth ac optometreg ledled Cymru yn ailddechrau cynnig mwy o’u gwasanaethau fel rhan o adferiad fesul cam y gwasanaethau iechyd ar ôl argyfwng y coronafeirws.

Yn wahanol i Loegr, mae llawer o bractisau deintyddiaeth yng Nghymru wedi parhau ar agor i ddarparu gofal brys yn ystod y pandemig. Mae dros 16,500 o gleifion wedi cael eu gweld gan ddeintyddion mewn practisau yng Nghymru ers canol mis Mawrth, ac mae 180,000 yn rhagor wedi cael eu hasesu o bell dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo.  

Mae 87 o’r 400 o bractisau optometreg yng Nghymru wedi parhau ar agor yn ystod y pandemig hefyd, gan ddarparu gofal brys a hanfodol i dros 19,000 o gleifion.  

Mae practisau optometreg a deintyddiaeth yng Nghymru wedi cynyddu eu darpariaeth o wasanaethau ers 22 Mehefin, gan ddechrau ailgynnig triniaethau ychwanegol i gleifion sydd â’r angen mwyaf. Bydd rhagor o wasanaethau’n ailddechrau’n raddol. Bydd y rheini sydd wedi cael problemau difrifol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau llym, a’r rheini sydd ag anghenion gofal brys, yn cael eu blaenoriaethu wrth i bractisau symud at ddarparu eu gwasanaethau arferol unwaith yn rhagor.

Fodd bynnag, ni ddylai cleifion ddisgwyl sefyllfa lle y bydd hi’n fusnes fel arfer, gan ei bod yn debygol y bydd yn cymryd amser cyn y gellir cynnig yr ystod lawn o wasanaethau - gan gynnwys y triniaethau deintyddol sy’n cynhyrchu chwistrell o ddiferion mân a allai ledaenu’r feirws. Oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol a rheoli’r haint, bydd practisau hefyd, yn ystod y cyfnod hwn, yn gweithredu ar gapasiti llawer is na’u capasiti blaenorol.

Bydd yr union hyn a ddarperir yn amrywio o bractis i bractis, a bydd practisau’n cysylltu â’u cleifion pan fyddant yn ailddechrau cynnig apwyntiadau rheolaidd. Gan ein bod yn rhagweld y bydd galw sylweddol ar y system, rydym yn gofyn i gleifion beidio â chysylltu â’u practis i gael apwyntiadau rheolaidd am y tro. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i sicrhau bod practisau’n gallu cael gafael ar y lefelau priodol o Gyfarpar Diogelu Personol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

Bydd ailddechrau gwasanaethau’n broses gymhleth. Rydyn ni wedi parhau i adolygu’r sefyllfa drwy gydol cyfnod y pandemig, er mwyn sicrhau bod gofal brys ar gael i’r rheini yr oedd ei angen arnyn nhw. Nawr bod lefel y coronafeirws yn ein cymunedau’n dechrau sefydlogi, rydyn ni’n mynd ati’n ofalus i ailddechrau fesul cam rai gwasanaethau nad ydyn nhw’n rhai brys.

Rydyn ni’n cydweithio’n agos gyda’r cyrff proffesiynol perthnasol, ac rydyn ni’n hyderus y bydd deintyddion ac optometryddion yng Nghymru yn parhau i gadw at fesurau llym, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, er mwyn diogelu staff a chleifion. Er nad na allwn ni ddychwelyd i sefyllfa o fusnes fel arfer eto, rydyn ni’n annog y rheini y mae angen triniaeth arnyn nhw i sicrhau eu bod yn ei chael er mwyn osgoi anawsterau gwaeth yn y tymor hir.

Disgrifiodd Annette Dobbs, optometrydd yn y Barri, sut mae hi wedi bod yn paratoi ar gyfer ailagor ei phractis:

Rydyn ni wedi darparu rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr er mwyn sicrhau bod ein holl staff wedi paratoi’n llawn ar gyfer y ffordd newydd o weithio. Mae gennym yr holl PPE cywir ar gyfer ein staff, rydyn ni wedi gosod sgriniau persbecs yn ardal y dderbynfa a marciau pellter ar y llawr. Byddwn ni’n gweithredu system apwyntiadau’n unig, yn ein galluogi i reoli’r haint mewn modd priodol, gan ddiheintio offer a fframiau ac ati rhwng apwyntiadau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau gweld ein cleifion unwaith yn rhagor.

Dywedodd y deintydd Jeremy Williams o bractis Rosehill yng Nghonwy:

Rydym wedi aros ar agor drwy gydol y pandemig, gan ddarparu gofal brys i dros 400 o gleifion. Nawr, rydyn ni'n dechrau cysylltu â chleifion eraill i ganfod beth yw eu hanghenion gofal. Bydd hynny'n ein galluogi i flaenoriaethu triniaeth gychwynnol ar gyfer y rhai sydd ei hangen fwyaf. Deallwn y bydd rhai cleifion yn teimlo ychydig yn bryderus ynghylch dechrau defnyddio gwasanaethau eto. Rydym am eu sicrhau ein bod wedi rhoi ystod o fesurau ar waith o fewn y practis fel y gallant deimlo'n gyfforddus yn dychwelyd atom am driniaeth. 

Dylai unrhyw sydd ag angen triniaeth neu asesiad deintyddol frys ffonio’r GIG ar 111.