BeefQ

Mynychodd Rhwydwaith Gwledig Cymru sesiwn BeefQ yng Nghlwb Rygbi Machynlleth ar 23 Ionawr 2020.

Mae prosiect BeefQ, sy'n cael ei arwain gan sefydliad y Gwyddorau Biolegol, amgylcheddol a gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y cyd â phartneriaid yn y diwydiant, yn cynnal ymchwil i weithredu system asesu ansawdd bwyta yng Nghymru i hyrwyddo bwyta ansawdd a gwerth cig eidion Cymru. Nododd ymchwil defnyddwyr, yn ogystal ag adolygiad sector cig eidion Cymru o 2014, ansawdd bwyta fel ffactor allweddol mewn penderfyniadau prynu, gyda siopwyr yn fodlon talu prisiau uwch am gig eidion o ansawdd gwell. Cefnogir y prosiect gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer datblygu gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ei nod yw datblygu system graddio ansawdd bwyta cig ar gyfer Cymru yn seiliedig ar system safonau cig llwyddiannus iawn Awstralia ar gyfer rhagweld ansawdd bwyta cig. Yn allweddol i hyn yw cyfieithu'r data a gesglir o garcasau cig eidion Cymru sy'n graddio'n weledol am ansawdd bwyta yn ystod y prosesu, i brofiad o ansawdd bwyta i ddefnyddwyr. Mae ystod eang o dros 2000 o garcasau wedi'u graddio gan MSA gradwyr hyfforddedig mewn gweithfeydd prosesu sy'n prosesu cig eidion Cymru PGI. Mae samplau o'r ystod hon o wahanol fathau o garcas, toriadau a dulliau hongian yn cael eu cyflwyno i ddefnyddwyr erbyn hyn i'w blasu a'u gwerthuso o dan amodau rheoledig. Mae'r digwyddiadau blasu hyn yn para awr ac fe gyflwynir saith sampl o cig wedi'i goginio i ddefnyddwyr a gofyn iddynt eu sgorio yn ôl "blas, breuder a sublusrwydd". Defnyddir y wybodaeth hon wedyn i adeiladu system gwerthuso ansawdd bwyta i Gymru.

BeefQ project

 

Yn ogystal â llunio'r model rhagfynegi ansawdd bwyta cig ar gyfer Cymru, mae'r prosiect hefyd wedi hyfforddi gweithwyr prosesu a chynrychiolwyr y diwydiant yn y gwahanol agweddau ar raddio ansawdd bwyta ac mae'r unigolion hyn bellach yn defnyddio eu gwybodaeth i rhoi gwybod i gydweithwyr a'r diwydiant am elfennau ymarferol rhagfynegi ansawdd bwyta cig. Bydd system rhannu data prototeip hefyd yn cael ei datblygu yn seiliedig ar gyfweliadau gyda phroseswyr a gweithdai gyda ffermwyr i nodi'r ffordd fwyaf effeithiol o rannu data ansawdd bwyta i wella ansawdd y cig eidion a gynhyrchir yng Nghymru dros amser. Y gweithgaredd olaf yn y prosiect yw hwyluso trafodaeth ar draws y diwydiant ar sut orau i ddatblygu system rhagfynegi ansawdd bwyta yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ac am wahanol ddatganiadau i'r wasg ar gael ar ein gwefan www.beefq.wales, rydym hefyd ar Twitter @BeefQWales. Gallwch danysgrifio i'n cylchlythyr bob deufis drwy dudalennau gwe BeefQ.