Denbighshire

Mae cronfa arbennig o dros £50,000 wedi ei sefydlu i helpu cymunedau gwledig ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru i frwydro’r epidemig Coronafeirws.

Mae’r arian i’w weinyddu gan yr asiantaeth adfywio, Cadwyn Clwyd, sydd yn apelio ar i sefydliadau lleol gyflwyno eu hunain a bod yn rhan o’r prosiect.

Y nod yw helpu i ddatblygu a threialu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol megis Pryd ar Glud a rhaglenni estyn allan eraill i gynorthwyo pobl yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam wledig, yn enwedig yr henoed a’r rhai mwyaf agored i niwed.

Mae Cadwyn Clwyd yn gweithredu drwy Grwpiau Gweithredu Lleol (GGLl) ym mhob sir, a dywed cadeirydd GGLl Sir y Fflint:

“Mae’r argyfwng yma yn mynd i barhau am fwy na chwpl o wythnosau ac mae angen help a chymorth cynaliadwy ar sefydliadau.

“Mae gan y bobl ar lawr gwlad y wybodaeth ynglŷn â phwy sydd yn debygol o fod angen cymorth a ble mae angen i’r cymorth yna fynd, a bydd hyn o gymorth i ddarparu’r adnoddau ar gyfer yr eiriolwyr lleol yma wrth iddynt gyflawni gwasanaethau hanfodol ac amserol.

“Bydd y Prosiect Cydweithredu yn cynorthwyo sefydliadau cymunedol i addasu i ffyrdd newydd o weithio a datblygu datrysiadau arloesol i ddarparu gwasanaethau i’w cymunedau.”

Daw’r gronfa, sydd yn werth cyfanswm o £54,000, o bot o bron i £8 miliwn o gyllid prosiect LEADER sydd yn cael ei weinyddu gan asiantaeth Cadwyn Clwyd yng Nghorwen, ac yn rhannol o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Raglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020. 

Mae’r arian yn cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru fel rhan o gynllun chwe blynedd i adfywio cymunedau gwledig a’u heconomïau.

Dywed Rheolwr Cadwyn Clwyd, Lowri Owain:

“Mae’r cyfnod yma yn un heriol tu hwnt ac mae hynny yr un mor wir ar gyfer yr ardaloedd gwledig ag yw ar gyfer trefi ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

“Mae’r arian yma wedi ei anelu at grwpiau cymunedol, elusennau a sefydliadau’r sector cyhoeddus sydd ar reng flaen y frwydr yn erbyn epidemig Coronafeirws.

“Mae llawer ohonynt yn gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu eu gwasanaeth sydd yn heriol iawn yn y cyfnod anodd yma. 

“Mae’r fenter yn rhan o brosiect cydweithredu drwy’r Grwpiau Gweithredu Lleol (GGLl) ar draws ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. 

“Rydym eisoes yn helpu sefydliadau ar draws y tair ardal gan gynnwys, er enghraifft, prynu cynhwysyddion dal bwyd i ddanfon i’r cartref.

“Rydym yn wynebu sefyllfa sydd yn prysur newid yng nghyd-destun yr achos a bydd y cronfeydd yma o gymorth i addasu cymorth cymunedol rheng flaen. 

“Gall sefydliadau lleol gysylltu â Cadwyn Clwyd ac fe wnawn ni weithio gyda nhw, gyda’n swyddogion yn eu cynorthwyo i fod yn rhan o’r prosiect.”

Mae Partneriaeth Cymunedol De Sir Ddinbych wedi ei lleoli yn nhref Corwen, ac mae’n gwasanaethu ardal Edeyrnion. Dywed y Rheolwr, Margaret Sutherland: “Rydym yn croesawu’r cymorth yma yn fawr iawn ar amser tra anodd ar gyfer pobl yn yr ardaloedd gwledig, ac rwyf wedi fy mhlesio’n arw gydag ymateb cyflym Cadwyn Clwyd.

“Yn sicr mi fyddwn yn gwneud cais i fod yn rhan o’r prosiect am y bydd hyn yn ein helpu i ganfod ffyrdd newydd o ddarparu ein gwasanaethau, pethau fel  pryd ar glud, siopa ar gyfer yr henoed a’r rhai sydd yn agored i niwed, a’n banc bwyd, ac rydym nawr am ychwanegu gwasanaeth casglu presgripsiwn.

“Fe gawsom ymateb gwych i’n apêl am wirfoddolwyr ac erbyn hyn mae gennym ni ddigon o bobl ac yn y broses o bennu rolau ar eu cyfer.”

Mae Partneriaeth Cymunedol De Sir Ddinbych hefyd wedi sefydlu llinell gymorth ar gyfer trigolion Edeyrnion ar 01490-266004 sydd ar agor bob dydd rhwng 10am a 3pm. 

Am ragor o wybodaeth ynghylch Cadwyn Clwyd ac i holi sut i gael mynediad i gymorth ariannol, cysylltwch â hwy ar 01490 340500, e-bostiwch: admin@cadwynclwyd.co.uk neu ewch i http://cadwynclwyd.co.uk/

Llinell Gymorth Partneriaeth Cymunedol De Sir Ddinbych yw 01490 266004 ac am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ymateb Partneriaeth Cymunedol De Sir Ddinbych, ewch i https://www.facebook.com/sdcpartnership