Mae Cynllun Hyrddod Mynydd wedi ei lansio gan Hybu Cig Cymru er mwyn cryfhau’r sector defaid yng Nghymru trwy welliant genetig hirdymor.

Hwn yw’r cynllun cyntaf o’i fath yn y DG a’i fwriad yw cymell mwy o ffermwyr mynydd Cymru i ddefnyddio hyrddod â chofnodion perfformiad er mwyn cynhyrchu ŵyn sy'n ateb ystod eang o ofynion y farchnad gartref a thramor.

Bydd y Cynllun Hyrddod Mynydd yn rhedeg am bum mlynedd fel rhan o Raglen Datblygu Cig Coch HCC, sy'n anelu at wella effeithlonrwydd a chryfhau diwydiant cig coch pwysig Cymru.

Cafodd saith o ddiadelloedd arweiniol eu recriwtio ar gyfer blwyddyn gyntaf y prosiect a bydd mwy o ddiadelloedd yn ymuno â'r prosiect yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r prosiect yma, cliciwch yma i lenwi ein ffurflen Mynegi Diddordeb fer erbyn 31 Mawrth 2019.