Mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo £140 miliwn o arian ychwanegol i helpu busnesau i ddelio â’r heriau economaidd sydd wedi dod yn sgil coronafeirws (COVID-19) ac a ddaw pan fydd y DU yn gadael yr UE, meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates.

Bydd trydydd cymal Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru yn neilltuo mwy o arian i ddiogelu swyddi a helpu busnesau i ddatblygu yn ogystal â rhoi help ychwanegol i fusnesau sy’n dod o dan y cyfyngiadau lleol.

Mae’r ERF hyd yma wedi rhoi bron £300 miliwn o gymorth i ragor na 13,000 o gwmnïau yng Nghymru. Diolch i’r cymorth hwnnw, mae rhagor na 100,000 o swyddi a fyddai wedi’u colli efallai fel arall wedi’u diogelu.

Trwy gymal newydd yr ERF, caiff £80 miliwn ei neilltuo i helpu busnesau i gynnal prosiectau i’w helpu i addasu i economi’r dyfodol. Bydd gofyn i’r cwmnïau gyd-fuddsoddi a pharatoi cynllun clir ar sut i addasu i economi mewn byd ar ôl coronafeirws (COVID-19).

O hwn, bydd £20 miliwn wedi’i glustnodi i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch sy’n wynebu anawsterau difrifol wrth inni gamu tua’r gaeaf.

Yn y cyfamser, caiff £60 miliwn ei neilltuo i helpu busnesau y bydd y cyfyngiadau clo lleol yn effeithio arnyn nhw.

Caiff gweddill yr arian ei ddefnyddio i roi cymorth hyblyg ychwanegol, er enghraifft, i gynyddu benthyciadau Banc Datblygu Cymru i fusnesau Cymru a helpu cwmnïau i ddelio ag effeithiau gadael yr UE.

Mae’r ERF wedi’i dylunio i ategu a chryfhau’r cymorth sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn gwbl hanfodol i gefnogi busnesau ledled Cymru i ddelio â heriau economaidd y coronafeirws ac i helpu i ddiogelu bywoliaeth rhagor na 100,000 o bobl.

Bydd cam nesa’r gronfa, gwerth £140 miliwn, yn adeiladu ar sylfeini’r llwyddiant hwnnw gan ein helpu i ddiogelu swyddi a galluogi busnesau i barhau i ddatblygu a thyfu dros gyfnod anodd iawn. Hefyd, mae rhan o’r gronfa wedi’i chlustnodi i helpu busnesau i ddygymod â chyfyngiadau lleol.

Mae’r help ychwanegol hwn wedi’i greu i ategu a chryfhau’r gefnogaeth a gyhoeddwyd gan y Canghellor wythnos ddiwethaf, gan ddangos unwaith eto bod Llywodraeth Cymru’n broactif yn ei hymdrechion i roi’r cymorth ariannol ychwanegol y gwyddom sydd ei angen ar ein busnesau a’n gweithwyr.

Bydd yr £80 miliwn o grantiau datblygu busnesau ar gael i ficrofusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr.

  • Bydd microfusnesau (sy’n cyflogi rhwng 1 a 9 o bobl) yn cael gwneud cais am hyd at £10,000 cyn belled â’u bod yn buddsoddi o leiaf 10% o werth y swm hwnnw eu hunain.
  • Bydd BBaChau (sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl) yn cael gwneud cais am hyd at £150,000 cyn belled â’u bod yn buddsoddi o leiaf 10% (busnesau bach – 1 i 49 o staff) neu 20% (busnesau canolig eu maint – 50 i 249) o werth y swm hwnnw eu hunain.
  • Bydd busnesau mawr (yn cyflogi 250+ o bobl) yn cael gwneud cais am hyd at £200,000 cyn belled â’u bod yn buddsoddi o leiaf 50% o werth y swm hwnnw eu hunain.

Gallai cwmnïau a dderbyniodd grantiau yng ngham un a dau’r ERF, neu gymorth gyda’u hardrethi annomestig, fod yn gymwys am arian cam tri’r ERF hefyd.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Rydym yn byw trwy gyfnod na welwyd ei debyg erioed. Mae’r coronafeirws a’r risg gynyddol y gallai’r DU ddod at ddiwedd cyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn golygu bod ein busnesau’n wynebu heriau anhygoel.

Rydym ninnau yn Llywodraeth Cymru yn dal i wneud popeth a allwn i helpu’n busnesau, ein gweithwyr a’n cymunedau.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

Mae’r pecyn o gymorth rydym wedi’i roi i fusnesau Cymru wedi bod yn gwbl hanfodol a bydd ei bwysigrwydd yn parhau wrth inni symud at gam nesaf delio â’r argyfwng hwn.

Mae’r cyhoeddiad heddiw’n rhoi’r tawelwch meddwl sydd ei angen ar fusnesau pan fo’i angen fwyaf arnynt.

Bydd y Gwiriwr Cymhwysedd sy’n dangos i gwmnïau a ydyn nhw’n gymwys am arian trydydd cam yr ERF yn gweithio yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 5 Hydref.

Keep Wales Safe