Os hoffech ragor o wybodaeth am reoli’r broses o ddiddyfnu ŵyn, beth i wneud a beth i beidio â gwneud, mae Cyswllt Ffermio yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau thema ar fferm ynglŷn â’r pwnc penodol hwn.
Bydd yr arbenigwr defaid, Kate Phillips, yn bresennol yn y digwyddiadau hyn a bydd yn trafod gwahanol elfennau o ran y broses diddyfnu ŵyn megis pryd i ddiddyfnu, sut i ddiddyfnu, rheolaeth cyn diddyfnu ŵyn, a rheoli’r borfa a phorthiant.
Bydd milfeddyg lleol hefyd yn bresennol er mwyn egluro sut i osgoi materion iechyd all ddigwydd yn ystod y cyfnod hwn.
Mae rhan fwyaf o gyngor ac ymchwil o fewn y diwydiant yn gytûn mai 12 wythnos yw’r oedran delfrydol i ddiddyfnu ŵyn, serch hyn gall ffactorau eraill megis; os yw cyflwr corff y famog yn is na'r hyn sy’n ddelfrydol, gorchudd gwelltglas yn llai na 600Kg/DM/Ha, a chyfradd twf yr wyn yn is na 150g y dydd, olygu y gall ddiddyfnu ynghynt fod o fantais.
Mae archebu eich lle yn hanfodol, bydd lluniaeth ar gael. Er mwyn archebu eich lle, cysylltwch â 08456000813 neu anfonwch e-bost: farmingconnect@menterabusnes.co.uk
Mae’r dyddiadau a’r lleoliadau fel a ganlyn:
09/07/2019 | 2.30pm - 4.30pm | Dolobran | Dinas Mawddwy, Machynlleth, SY20 9LX |
10/07/2019 | 3pm - 5pm | Nant Cornwal | Llansannan, Denbigh, Conwy, LL16 5LG |
11/07/2019 | 2pm - 4pm | Aberbranddu | Aberbranddu Llanwrda, SA19 8YE |
12/07/2019 | 11am - 1pm | Fferm Cwm Carno | Rhymney, Tredegar, Caerphilly, NP22 5QY |
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.