Food Skills Cymru

Mae’r argyfwng COVID-19 presennol wedi cael effaith enfawr ar bob sector ond mae busnesau hefyd yn ystyried sut y byddan nhw’n addasu yn y dyfodol mewn byd sy’n newid o hyd. Nid yw’r sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yn ddim gwahanol ac mae safle swyddi newydd wedi cael ei lansio gyda’r bwriad o baru swyddi gwag gyda phobl â sgiliau priodol sy’n chwilio am waith.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei lansio gan Sgiliau Bwyd Cymru, rhaglen a gyflenwir gan Lantra sy’n rhoi cymorth i fusnesau o bob maint yn sector bwyd a diod Cymru, i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a’r hyfforddiant priodol ar gyfer eu busnes a’r diwydiant ehangach yn gyffredinol.

Gan weithio ym mhob sector o fewn y diwydiant, mae’n helpu gweithwyr i addasu i heriau economaidd ac amgylcheddol a chymryd mantais o gyfleoedd i ddatblygu a thyfu busnesau. Yn yr hinsawdd bresennol mae hyn yn fwy perthnasol a phwysig nag erioed.

Bydd y fenter yn cysylltu’n agos â’r Adran Gwaith a Phensiynau gyda’r nod o baru cyfleoedd am swyddi gyda phobl â sgiliau perthnasol fel mae Sarah Lewis, Rheolwr Prosiect i Sgiliau Bwyd Cymru yn egluro:

“Ein huchelgais fel prosiect yw cryfhau’r sector bwyd a diod yng Nghymru trwy roi sgiliau priodol a rhaglenni hyfforddi perthnasol i gyflogeion sy’n gweithio yn y diwydiant."

“Mae’r argyfwng COVID-19 presennol wedi golygu ein bod ni, ynghyd â nifer o sefydliadau eraill, wedi gorfod addasu ein rhaglenni gwaith, ac rydyn ni wrthi’n ystyried sut y gallwn ni roi cymorth i fusnesau i ystyried pa fath o weithlu fydd ei angen arnyn nhw wrth i ni ddod allan o’r argyfwng hwn."

“Gan weithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau rydyn ni’n gobeithio gallu paru cyfleoedd gwaith gyda phobl â’r sgiliau priodol sy’n chwilio am waith yng Nghymru, a hynny’n gyflym ac yn effeithiol.”

Mae’r diwydiant bwyd a diod a’r gadwyn gyflawni gyfan yn bwysig iawn i economi Cymru. Mae bron i 20% o holl gyflogaeth Cymru yn y sector bwyd a diod ac mae’n cyfrannu tua £6.9 biliwn mewn refeniw gwerthiant.

Mae Lesley Griffiths MS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn credu bod y gwasanaeth hwn yn amserol iawn,

“Yr hyn rydyn ni’n ei weld ar hyn o bryd yw bod busnesau’n cynllunio’n rhagweithiol ar gyfer bywyd ar ôl Covid-19. Maent yn edrych i raddau helaeth ar eu gweithlu a sut y gellir ei gryfhau i fod yn fwy gwydn a sut y gall addasu i'w hanghenion yn y dyfodol."

“O fewn sector mor allweddol â bwyd a diod mae'n hanfodol bwysig bod y setiau sgiliau yn cyfateb yn briodol a bydd y gwasanaeth newydd a phwysig hwn yn rhoi'r personél sy'n ofynnol i'r diwydiant symud ymlaen yn yr amseroedd mwyaf heriol hyn."

Mae’r safle newydd i’w weld yn www.foodskills.cymru

Gall rhaglen Sgiliau Bwyd Cymru hefyd gynnig cymorth hyfforddi i fusnesau hyd at fis Medi 2021 ac mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy gysylltu â Sgiliau Bwyd Cymru ar wales@lantra.co.uk neu ffonio 01982 552646.

Ariennir Sgiliau Bwyd Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.