soft fruit enterprise

Mae yna alw cynyddol gan y cyhoedd am brofiadau awyr agored ac mae tirfeddianwyr wedi eu lleoli mewn ardaloedd delfrydol i fanteisio ar y tueddiad ffasiynol hwn, yn ogystal â derbyn incwm arallgyfeirio ychwanegol.
 
Bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal digwyddiad agored ar safle ffocws, sef safle newydd sydd yn rhoi’r cyfle i’r cyhoedd bigo ffrwythau medal. Byddwch yn cael y cyfle i fynd ar daith tywys o amgylch y safle.
 
Y prif siaradwr o fewn y digwyddiad bydd Chris Creed o ADAS. Mae Chris yn ymgynghorwr garddwriaeth, sydd wedi gweithredu fel cynghorydd i’r prosiect a bydd gennych y cyfle i wrando ar ei wybodaeth a’i gyngor o ran sefydlu menter gyfoes, yn ogystal â thrafod syniadau.
 
Mae’r uned newydd sbon yma ar safle tir glas wedi seilio ar fefus pen bwrdd mewn twneli Sbaenaidd sy’n cynnwys hydroponeg a chnydau rhaglenadwy gyda’r bwriad o ddarparu tymor casglu o bedwar mis. Mae mafon yn cael eu tyfu ar system ffon hir mewn potiau hefyd. 
 
Cynhelir y digwyddiad ‘Sefydlu menter gyfoes pigo eich ffrwythau meddal eich hun’ ar 
Fferm Scurlage Farm, Scurlage, Reynoldston, Abertawe SA3 1BA, ar 26/06/2019 rhwng 14:00 – 16:00. 

 
Croeso i chi fynychu’r digwyddiad arloesol a gwahanol yma er mwyn derbyn mwy o wybodaeth a dysgu rhywbeth newydd. Er mwyn mynychu, cysylltwch â’r Ganolfan Wasanaeth ar 08456 000 813 i gofrestru eich lle.
Bydd lluniaeth ar gael felly cofiwch archebu eich lle o flaen llaw. 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.