Yn ddiweddar mynychodd cynrychiolaeth o Gymru a gydlynir gan PLANED, Senedd Wledig yr Alban (SRP), i ddathlu cymunedau gwledig eithriadol, trafod heriau yn y dyfodol a dangos cryfder a photensial ardaloedd gwledig.

Mynychodd Jessica Morgan a Liz Bickerton yr SRP, a chawsant eu hariannu’n rhannol gan brosiect a elwir yn ROAD sy’n dod â phartneriaid o Gymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a Lloegr ynghyd i ddangos eu hymrwymiad i gysylltiadau Ewropeaidd a rhoi llais i ardaloedd gwledig yn Ewrop.

Dywedodd Jessica Morgan, Rheolwr LEADER yn PLANED:

“Mae Senedd Wledig yr Alban yn dod â phobl o gymunedau gwledig ynghyd i gyfarfod â’r rhai hynny sy’n gwneud penderfyniadau, gan ddarparu cyfleoedd i rannu syniadau, ystyried problemau a dewis a dethol datrysiadau. Mae cyfranogwyr yn edrych ar ystod o eang o broblemau sy’n effeithio ar gymunedau gwledig ac yn gwneud argymhellion ar gyfer newid. Mae’r Senedd Wledig hon yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun Brexit.

“Mae goblygiadau posibl Brexit wedi bod yn uchel ar yr agenda. Mae mynychwyr yma wedi dod ynghyd er mwyn galw am ymrwymiad clir i bobl, lleoedd a mentrau gwledig a pharhad datblygiad cymunedau gwledig yn seiliedig ar le. Fe wnaeth i ni feddwl beth y gellid ei gyflawni yng Nghymru a sut orau i godi proffil cymunedau gwledig mewn dadleuon yma”


Cynhaliwyd gweithdy i drafod cynnal cysylltiadau ag Ewrop. Bydd canfyddiadau’r gweithdy ac ystyriaethau o fecanweithiau ymgysylltu eraill ym mhob gwlad yn bwydo i mewn i adroddiad erbyn diwedd mis Chwefror 2019. Bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod Senedd Wledig Ewrop yn Sbaen ym mis Tachwedd 2019.


Nodiadau:


Cynhaliwyd Senedd Wledig yr Alban (SRP) yn Stranraer, Dumfries a Galloway o 14 – 16 Tachwedd 2018. Dyma ddigwyddiad a gynhelir bob dwy flynedd, gyda Senedd Wledig yr Alban gyntaf yn cael ei chynnal yn 2014.

Yn Sweden ym 1989 bathwyd y cysyniad o senedd wledig. Bellach mae yna 13 o seneddau gwledig cenedlaethol a gynhelir mewn 12 gwlad ar draws ardaloedd gwledig Ewrop. 

Mae Senedd Wledig Ewrop (ERP), yn gweithio gyda seneddau gwledig cenedlaethol i ddylanwadu a llywio ar lefel Ewropeaidd. Ymgyrch hirdymor yw ERP i fynegi llais pobl wledig yn Ewrop ac i hyrwyddo hunangymorth a gweithredu gan y bobl wledig, mewn partneriaeth â’r gymdeithas sifil a llywodraethau.
Ariennir ROAD gan raglen Cymdeithas Sifil EACEA (Education, Audiovisual and Culture Executive Agency).