Wales Millennium Centre

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £53 miliwn i helpu sector diwylliant amrywiol Cymru i ddelio gydag effeithiau pandemig y coronafeirws, yn ôl cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £53 miliwn i helpu sector diwylliant amrywiol Cymru i ddelio gydag effeithiau pandemig y coronafeirws, yn ôl cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru ac mae “contract diwylliannol” yn rhan greiddiol ohoni er mwyn helpu’r sector i ddod allan o’r pandemig yn gryfach nag erioed.

Mae’r cyhoeddiad heddiw’n ychwanegol at y pecyn portffolio gwerth £18 miliwn a ddarparwyd ym mis Ebrill, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru.

Bydd y Gronfa Cydnerthedd Diwylliannol yn helpu i warchod sefydliadau, unigolion a swyddi yn y sector diwylliant, gan gynnwys:

  • Theatrau
  • Orielau
  • Lleoliadau cerddoriaeth, busnesau ac unigolion
  • Safleoedd treftadaeth
  • Amgueddfeydd lleol, llyfrgelloedd a gwasanaethau archif
  • Digwyddiadau a gwyliau
  • Sinemâu annibynnol

Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas:

Rydym wedi gwrando a gweithio gyda’n partneriaid ar draws y sectorau diwylliannol a chreadigol i roi’r ail becyn hwn o gefnogaeth at ei gilydd. Hoffwn gofnodi ein diolchiadau am weithio’n adeiladol gyda ni i sicrhau’r ail becyn hwn o gymorth.

Rydym yn cydnabod yr heriau digynsail a gaiff y pandemig ar fywyd Cymru ac yn cymeradwyo y cadernid a’r creadigrwydd a welwyd.

 “Bydd y pecyn hwn yn helpu i gefnogi nifer yn y sectorau wrth ymateb i bwysau a heriau’r coronafeirws, ac mae hefyd yn gyfle unigryw i sicrhau newid fesul cam – byddwn yn datblygu contract diwylliannol fel y gall y sector ailddechrau yn gryfach.

Byddai hyn yn sicrhau bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymrwymo i sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio at bwrpas cymdeithasol positif, wedi’i dargedu, sef y peth iawn i’w wneud.

Meddai Rebecca Evans y Gweinidog Cyllid:

Rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos iawn â’r sector i ddeall yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu a lefel y cymorth y maent ei angen. Mae’r pecyn a gyhoeddwyd gennym heddiw yn dangos ein bod wedi gwrando ar y sector ac wedi rhoi’r cymorth y mae ei angen i oroesi a ffynnu wedi’r pandemig.

Meddai Nick Capaldi, prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

Mae cyhoeddi’r cronfeydd ychwanegol hyn yn arwydd o gymorth y mae’r celfyddydau yng Nghymru wedi bod yn aros amdano. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn gydnabyddiaeth a groesawir o bwysigrwydd y celfyddydau i lesiant y genedl ac i economi greadigol y wlad.

Gyda chynifer o sefydliadau celfyddydol yn wynebu ansolfedd yn fuan, a gweithwyr llawrydd yn ei chael yn anodd i weld pryd fyddant yn derbyn eu cyflog nesaf, mae’r cronfeydd hyn yn golygu bod llai o berygl i’r sector creadigol ddadfeilio.

Mae’r cronfeydd hyn yn cynnig cyfle i artistiaid a sefydliadau celfyddydol sefydlu eu gweithgareddau a’u hannog i ymrwymo i’r ‘contract diwylliannol’ newydd.  Nid yw’n ddigon i warchod ac amddiffyn – mae’n rhaid inni greu dyfodol newydd ble y mae gweithgareddau diwylliannol yn cyrraedd yn ehangach ac yn dyfnach ar draws bywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y contract diwylliannol yn ychwanegu at gontract economaidd presennol Llywodraeth Cymru am waith a thâl teg a chynaliadwyedd, gan fynd i’r afael â meysydd fel y canlynol:

  • Amrywiaeth ar fyrddau
  • Staff sydd wedi’u cadw i gefnogi mentrau ehangach
  • Presgripsiynu cymdeithasol
  • Mentrau iechyd a chelfyddydol
  • Cynaliadwyedd amgylcheddol